Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn dychwelyd am ei hwythfed blwyddyn

22 Mai 2017

Mae gŵyl feicio flynyddol Aberystwyth yn dychwelyd yr wythnos hon, 21 - 30 Mai 2017, gyda deg diwrnod o ddigwyddiadau yn y dref a’r wlad o amgylch.

Bellach yn ei hwythfed blwyddyn, mae Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn ddathliad o bopeth sydd yn ymwneud â seiclo ac yn cael ei chefnogi gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r digwyddiadau yn cynnwys rasio criteriwm, beicio lawr rhiw, cystadleuaeth dringo rhiw, rasio beic mewn tafarn a noson gala yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda dangosiad arbennig o’r ffilm arobryn gan James Newton, Janapar, Love on a Bike.

Daw’r ŵyl i ben ar ddydd Sul 28 Mai gyda Sportif Gorllewin Gwyllt Cymru sydd yn cynnig cyfle i feicwyr o bob oed a gallu i fwynhau rhai o ffyrdd harddaf Cymru.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd rasys Grand Prix Menywod Storck a chriteriwm Grand Prix Ceredigion ar nos Wener 26 Mai.

Bydd y beicwyr yn rasio o amglych yr Hen Goleg, adfeilion castell canol oesoedd Aberystwyth a’r pier Fictorianaidd, a bydd y ffyrdd yn y rhan hon o’r dre ar yn ystod y dydd a gyda’r hwyr.

Cyn i’r beicwyr proffesiynol ddangos eu doniau, fe fydd seiclwyr mor ifanc ag 8 oed hefyd yn cael y cyfle i rasio.

Gan ddechrau am 1.30 y prynhawn, bydd deuddeg ras i ddisgyblion ysgol, Her Hwyliog Gwisg Ffansi rhwng y Dre a'r Brifysgol i oedolion lleol a myfyrwyr, 'GoRace' i raswyr hŷn newydd, a chriteriymau Glan-y-môr Cwpan Continental i'r amaturiaid uchelgeisiol.

Cynhelir y ras beicio lawr rhiw, 'Concro'r Clogwyn', ddydd Sadwrn 27 Mai, ar y Graig-Glais, yn ogystal â'r ras Dringo Rhiw lle y bydd beicwyr yn wynebu her y graddiant 25% am 200 metr ar riw Cefn Llan yn Llanbadarn.

Bydd Sportif y Gorllewin Gwyllt yn mentro y tu allan i'r dref ac i gefn gwlad Ceredigion, â phedwar llwybr gwahanol i ddewis o'u plith; 28, 45, 62 neu 106 o filltiroedd.

Dywedodd Jeff Saycell, Rheolwr Cyfleusterau y Ganolfan Chwaraeon ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd bod Gŵyl Seiclo Aber wedi dychwelyd am yr wythfed flwyddyn yn olynol a bod ei phartneriaeth â'r Brifysgol yn parhau.  Rwyf yn edrych ymlaen yn enwedig i weld staff a myfyrwyr y Brifysgol yn cymryd rhan yn Ras Her y Dref yn erbyn y Brifysgol am 4.30pm ddydd Gwener 26 Mai; dyna gyfle i bob perchen beic roi cynnig arni. Dim ond 20 munud yw hyd y ras hon ac nid yw’n rhy galed ar y coesau. Felly gobeithiaf weld llawer o staff a myfyrwyr y Brifysgol yn ymuno. Mae gwobr am wisg ffansi, felly peidiwch â bod yn swil, gwisgwch rywbeth a fydd yn creu argraff ar gyfer yr achlysur.”

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ŵyl yma: http://www.abercyclefest.com/

 

AU19217