Cynlluniau gradd newydd ar gael yn y Clirio

Cafodd y radd Creu Ffilm ei lansio gan Huw Penallt Jones ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym mis Awst 2017.

Cafodd y radd Creu Ffilm ei lansio gan Huw Penallt Jones ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym mis Awst 2017.

16 Awst 2017

Mae cwrs tair blynedd mewn creu ffilm yn un o sawl cynllun gradd newydd sbon sydd ar gael trwy’r broses Clirio ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni.

Cafodd y cwrs ei lansio ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar 8 Awst 2017 ac mae wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd am ddysgu am yr agweddau ymarferol ar wneud ffilm nodwedd.

Lluniwyd y rhaglen BA Creu Ffilm gan y cynhyrchydd ffilm profiadol Huw Penallt Jones sydd wedi cwblhau a chyflwyno mwy na 200 o ffilmiau dros y 32 mlynedd diwethaf.

"Datblygwyd y cwrs gradd cyffrous hwn i gwrdd â gofynion y diwydiant ffilm yn yr 21ain ganrif," meddai Huw Penallt Jones, sydd bellach yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth.

"Bydd myfyrwyr yn dysgu am rôl y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd yn ogystal ag amcanion y stiwdio ffilm a photensial y cyllidwyr. Byddan nhw’n cael cyflwyniad manwl ac ymarferol i’r ffordd y mae’r diwydiant ffilm yn gweithio, a dealltwriaeth glir o'r broses astrus a chymhleth  weithiau o sut y caiff ffilm ei chychwyn, ei hariannu, ei saethu, ei chyflwyno a'i hecsbloetio. Mae'n radd arloesol gyda pherthnasedd i’r byd go iawn fydd yn herio, yn ysbrydoli ac yn datgloi potensial yn y dyfodol. "

Bydd dosbarthiadau meistr gydag arbenigwyr blaenllaw o’r diwydiant yn nodwedd arall o'r cwrs, tebyg i’r sesiwn a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mis Mawrth 2017 gyda Walter Murch sy’n cael ei ddisgrifio fel y 'golygydd ffilm a dylunydd sain uchaf ei barch ym maes sinema gyfoes'.

Ymhlith y cynlluniau gradd newydd eraill sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod Clirio 2017 y mae Ysgrifennu ar gyfer y Cyfryngau, Darlledu a Pherfformio; Roboteg a Sustemau ynghlwm â Pheirianneg, a chyfres o raddau o fewn athrofa uchel ei fri y Brifysgol ar gyfer y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) sydd bellach yn cynnig blynyddoedd diwydiannol integredig.

Dywedodd Pennaeth Swyddfa Derbyn Israddedig Prifysgol Aberystwyth, David Moyle: "Mae Clirio yn gyfnod o'r flwyddyn sy'n gallu trawsnewid bywydau twy gynnig cyfleoedd newydd. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd heb gael y graddau Safon Uwch angenrheidiol i ddod o hyd i gwrs prifysgol arall sy’n addas iddyn nhw. Mae hefyd yn gyfle i'r rhai sydd wedi penderfynu yn hwyrach yn y dydd eu bod yn dymuno dilyn cwrs prifysgol.

"Ymhellach, mae'r broses Clirio yn ddefnyddiol i'r rheiny sydd am ailystyried dewisiadau  a wnaed yn gynharach - naill ai am eu bod wedi cael graddau gwell na'r disgwyl neu wedi newid eu meddyliau ynglŷn â lle maen nhw eisiau mynd. Beth bynnag yw'r rheswm, mae’n tîm o staff Clirio wrth law i wneud y broses mor hwylus â phosib a sicrhau bod pobl yn dod o hyd i’r cwrs gorau ar eu cyfer nhw."

Mae llinell gymorth clirio Prifysgol Aberystwyth 0800 121 4080 ar agor o 7.30yb - 8yh ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch Dydd Iau 17 Awst, gyda staff wrth law i ateb unrhyw ymholiadau yn ystod y dyddiau sy'n dilyn:

Dydd Iau 17 Awst

7.30yb – 8yh

Dydd Gwener 18 Awst

8yb – 7yh

Dydd Sadwrn 19 Awst – Dydd Sul 20 Awst

10yb – 4yp

Dydd Llun 21 – i ddydd Gwener 25 Awst

9yb – 5yp

 

 

Mae manylion pellach am y broses Clirio ar ein gwefan, gan gynnwys atebion i gwestiynau sy’n codi’n aml: https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/clearing/faqs.