Prifysgol Aberystwyth
Chwilio am Gwrs
Digwyddiadau i ddod
Astudio gyda Ni
Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.
Astudiaethau Israddedig:
Astudiaethau
Ôl-raddedig:
Opsiynau Astudio Eraill
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.
Darganfyddwch Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.
Newyddion
Gweld y newyddion yn llawnAnrhydeddau academaidd i bedwar gwyddonydd o Aberystwyth
Mae pedwar academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yr astudiaeth gyntaf ar ddatganoli darlledu yn y DU yn cael sêl bendith
Mae’r astudiaeth pedair gwlad gyntaf o bolisi darlledu yn y DU ddatganoledig ar fin cychwyn ar ôl dyfarnu grant ymchwil sylweddol i academydd o Aberystwyth.
Atriwm newydd yr Hen Goleg yn datblygu
Mae gwaith ar atriwm newydd yr Hen Goleg a fydd yn arwain at ystafell ddigwyddiadau newydd ddramatig 200 sedd a fydd yn cynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion wedi cyrraedd carreg filltir allweddol.
Pam nad yw Donald Trump yn llwyddo i ddod â heddwch i Wcráin fel yr addawodd?
Wrth ysgrifennu ar gyfer The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystyried pam mae’r trafodaethau heddwch yn Wcráin yn ei chael hi’n anodd dwyn ffrwyth, er gwaethaf nifer o gyfarfodydd rhwng swyddogion yr Unol Daleithiau a Rwsia.