Saethwyr Aber yn anelu am lwyfan byd

Beth Duthie (Credydd: Emily J Photography - www.facebook.com/EmilyRobertsMedia/)  a Alex Newnes

Beth Duthie (Credydd: Emily J Photography - www.facebook.com/EmilyRobertsMedia/) a Alex Newnes

18 Medi 2017

Mae dau o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm Prydain a fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Saethyddiaeth 3D y Byd, a gynhelir yn Robion, Ffrainc rhwng 19 a 24 Medi, 2017.

Dewiswyd Alex Newnes, myfyriwr PhD o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a Beth Duthie, myfyrwraig trydedd-flwyddyn yn y Gyfraith fel dau o saethwyr gorau Prydain i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Meddai Alex, sy'n dod o Landrillo-yn-Rhos: Mae'r ddau ohonom wrth ein bodd i gael ein dewis yn rhan o dîm Prydain i gystadlu yn yr achlysur hwn.  Mae hyn yn beth newydd yn hanes clwb saethyddiaeth y Brifysgol, a'r tro cyntaf y bydd Beth a finnau'n cystadlu'n rhyngwladol. 

"Mae saethyddiaeth yn mynd trwy gyfnod ffyniannus iawn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae aelodau'r clwb yn saethwyr safonol iawn a rhyngom mae gennym sawl record ar lefel sirol, Cymreig a Phrydeinig.

"Myfyriwr israddedig yn Aberystwyth oeddwn i pan gydiais mewn bwa a saeth am y tro cyntaf, ac wrth astudio am fy ngradd, am MSc a PhD rydw i wedi bod yn bencampwr dan do i'r sir, Cymru, Prydain, BUCS (British Universities & Colleges Sport), yn bencampwr British Target and Field ac yn saethwr maes #1 yng Nghymru yn fy nisgyblaeth. 

Un o gymdeithasau'r myfyrwyr yw Saethwyr Aber.  Clwb i fyfyrwyr sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr yw'r Saethwyr, ac ar hyn o bryd, hwn yw'r clwb prifysgol mwyaf ym Mhrydain.

Dywedodd Beth Dunie, sy'n dod o Derby: "Rydw i'n hapus iawn mod i'n cael cystadlu ym Mhencampwriaethau Saethyddiaeth 3D y Byd, sef gornest saethyddiaeth 3D fwyaf cystadleuol y byd.  Mae Alex a fi'n ddiolchgar dros ben i Gronfa Aber am ein cynorthwyo gyda chostau teithio i fynd i'r gystadleuaeth."

Rhaglen Roddi yw Cronfa Aber, i alumni, rhieni, staff a chyfeillion y Brifysgol, er mwyn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i brosiectau sy'n cyfoethogi profiad a datblygiad myfyrwyr a chynorthwyo i hyrwyddo uchelgeisiau'r Brifysgol. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi rhaglenni hyfforddi myfyrwyr, caledi myfyrwyr, prosiectau lles, a llawer mwy.

 

AU31817