Cymrawd Ysgrifennu yn ennill Gwobr Stori Fer y BBC 2017

Cynan Jones Llun: Bernadine Jones

Cynan Jones Llun: Bernadine Jones

05 Hydref 2017

Enillwyd Gwobr Stori Fer y BBC 2017 gan awdur o Geredigion sy’n rhoi cyngor i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar y grefft o ysgrifennu.

Cafodd Cynan Jones, sy’n frodor o Aberaeron, ei benodi’n Gymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2016.

Roedd yn un o bump ar y rhestr fer eleni am Wobr Stori Fer y BBC, a sefydlwyd yn 2005 i godi ymwybyddiaeth am fy ffurf yma o ysgrifennu.

Cyflwynwyd y wobr o £15,000 iddo mewn seremoni yn Theatr Radio’r BBC yn Llundain neithiwr (nos Fawrth 3 Hydref 2017).

Mae stori fer Cynan Jones, ‘The Edge of the Shoal’, yn delynegol ac yn llawn tensiwn am drip pysgota a aiff o chwith. Sail y stori yw’r awydd i oroesi ar y moroedd, a sylweddoliad o golled.

Yn ôl un o’r beirniaid, sef yr awdur Jon McGregor, sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Booker yn y gorffennol: “Mae darllen y stori’n brofiad sy’n bywiocáu ac yn dychryn ond eto’n gadarnhaol.” Ychwanegodd Eimear McBride fod y stori "mor berffaith ag unrhyw stori fer arall dwi erioed wedi'i darllen".

Mae Cynan Jones wedi ysgrifennu pum nofel a darlledwyd ei straeon ar BBC Radio 4 a'u cyhoeddi mewn amryw gyhoeddiadau gan gynnwys The New Yorker, ac mae hefyd wedi sgriptio pennod ar gyfer cyfres deledu Y Gwyll.

Darlledwyd holl straeon y rhestr fer ar BBC Radio 4, ac mae modd gwrando ar-lein ar stori Cynan Jones.

Yn rhinwedd ei swydd yn Gymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Cynan Jones yn cynorthwyo myfyrwyr i wella’u ysgrifennu a’u llythrennedd academaidd.  Gall myfyrwyr drefnu i’w weld drwy e-bostio writers@aber.ac.uk.