Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ail ddarlith goffa David Trotter

Dr Philip Durkin

Dr Philip Durkin

05 Hydref 2017

Bydd Dirprwy Brif Olygydd yr Oxford English Dictionary yn traddodi ail Ddarlith Goffa David Trotter ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 20 Hydref.

Teitl darlith Dr Philip Durkin fydd ‘‘Minding the gap: what we can learn from gaps in the surviving records for Middle English and Anglo-Norman”.

Cynhelir y ddarlith gan yr Adran Ieithoedd Modern yn Ystafell Seddon yr Hen Goleg am 6yh, gyda derbyniad diod o 5.15yp ymlaen. Mae croeso cynnes i bawb.

Ymhlith meysydd arbenigol Dr Durkin mae etymoleg, hanes yr iaith Saesneg yn enwedig geiriau, geiriau benthyg yn y Saesneg, cyswllt iaith, amlieithrwydd canoloesol, geiriaduraeth hanesyddol, a dulliau at eiriaduraeth.

Mae ei gyfrol Borrowed Words: A History of Loanwords in English, a gyhoeddwyd yn 2014 gan Oxford University Press, yn olrhain hanes geiriau benthyg Saesneg o’r dyddiau cynnar hyd heddiw.  

Dywedodd yr Athro Wini Davies, Pennaeth yr Adran Ieithoedd Modern: “Rydym yn hynod falch o groesawu Dr Philip Durkin i draddodi ail ddarlith goffa David Trotter a chyflwyno pwnc oedd mor bwysig i David. Roedd David yn eiriadurwr amlwg a fe oedd Prif Olygydd y Geiriadur Eingl-Normaneg (AND) yn Aberystwyth, tan ei farwolaeth yn 2015.

Mae AND, a gafodd gyfran o arian yn ddiweddar gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau dan arweiniad Dr Geert De Wilde a Dr Heather Pagan, yn gwneud cyfraniad pwysig i hanes y Saesneg yn ogystal â hanes y Ffrangeg ac wedi darparu llawer o ddata i eiriadur Saesneg Rhydychen. Mae’n hollol addas felly, y bydd y ddarlith gan Dr Durkin yn trafod y cysylltiadau sydd rhwng yr ieithoedd yma.”

Roedd yr Athro David Trotter yn awdurdod rhyngwladol blaenllaw ar iaith a geiriaduraeth Ffrangeg ac yn bennaeth Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd yn gyn-lywydd y Société de Linguistique Romane (2013-15) ac yn aelod gohebol o’r Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis. Roedd hefyd yn enillydd y Prix Honoré Chavée ac yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Fe raddiodd o Goleg y Frenhines Rhydychen, a’i benodi i’r gadair Ffrangeg yn Aberystwyth yn 1993.