Delweddau cyfrifiadurol yn allweddol i ddatblygu crwydryn ExoMars

Delwedd o Ddrych Arolwg y Crwydryn, wedi ei thynnu gan y Camera Cydraniad Uchel. Pan fydd yn drilio am samplau, bydd y drych yn caniatau i PanCAm weld islaw’r bocs drilio – yn y ddelwedd hon mae’r crwydryn yn y broses o ddrilio er mwyn casglu samplau o gerrig ar y blaned Mawrth.

Delwedd o Ddrych Arolwg y Crwydryn, wedi ei thynnu gan y Camera Cydraniad Uchel. Pan fydd yn drilio am samplau, bydd y drych yn caniatau i PanCAm weld islaw’r bocs drilio – yn y ddelwedd hon mae’r crwydryn yn y broses o ddrilio er mwyn casglu samplau o gerrig ar y blaned Mawrth.

24 Tachwedd 2017

Mae delweddau cyfrifiadurol o grwydryn ExoMars sydd i'w lansio yn 2020 yn darparu gwybodaeth bwysig i wyddonwyr sydd yn paratoi i adeiladu cerbyd ymchwil y daith.

Datblygwyd y delweddau a model rhithwir gan Dr Helen Miles, arbenigwr ym maes cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r gwaith gan Dr Miles yn cynorthwyo cynllunwyr y crwydryn i ragweld beth fydd ei system camera yn ei weld pan fydd wedi dechrau gweithio ar y blaned Mawrth.

Elfen allweddol o lwyddiant y daith fydd PanCam sydd yn cael ei ddatblygu gan wyddonwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain / Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard.

Camera panoramig blaengar yw PanCam sydd yn gallu cipio modelau manwl 3D o greigiau ar y blaned Mawrth wrth i wyddonwyr chwilio am arwyddion o fywyd.

O'i safle uwchben y crwydryn, bydd PanCam hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu cynllunwyr y daith i lywio’u ffordd ar draws wyneb Mawrth.

Mi fydd PanCam, o’i gyfuno gyda Drych Arolwg y crwydryn, hefyd yn gallu gweld rhannau o’r crwydryn a fyddai fel arall wedi eu cuddio, megis yr offer drilio.

Syniad y diweddar Athro Dave Barnes oedd y drych, ac fe’i ddatblygwyd gan Dr Matt Gunn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’n un o nifer o eitemau caledwedd ar gyfer y daith sydd wedi’u datblygu gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae dwy o'r eitemau yn hanfodol ar gyfer graddnodi PanCam er mwyn sicrhau canlyniadau cywir: targed graddnodi ar gyfer lliwiau a marciau ffiducial ar gyfer geometreg.

Datblygodd Dr Miles amgylchedd rhithwir er mwyn cynnal arolwg o’r crwydryn a chynhyrchu delweddau a fydd yn gallu rhagweld yn hynod gywir pa rannau ohono fydd yn weledol.

Gyda'r delweddau hyn, mae Dr Gunn yn gallu gweithio gyda thîm gwyddonol rhyngwladol PanCam er mwyn sicrhau bod y caledwedd yn cael ei osod yn y lleoliadau gorau ar y crwydryn, a dechrau cynllunio sut y byddant yn cael eu defnyddio yn ystod y daith.

Crwydryn ExoMars

Mae Dr Miles yn dysgu modiwlau mewn Graffeg Gymhwysol a Graffeg Cyfrifiadurol a Gemau yn Adran Gwyddorau Cyfrifiadurol Prifysgol Aberystwyth ac yn arbenigo ar y defnydd  realiti rhithwir at bwrpas addysgu a dysgu.

“Mae'n wirioneddol bwysig i wyddonwyr wybod beth fydd y crwydryn yn gallu ei weld trwy PanCam”, meddai Dr Miles.

“Gan nad yw’r crwydryn terfynol wedi'i adeiladu eto, mae'r model rhithwir yr ydym yn ei ddefnyddio i gynhyrchu delweddau yn Aberystwyth yn ei gwneud hi'n bosibl gwirio'r hyn sy'n weladwy ac osgoi problemau posibl yn y cyfnod cynnar hwn, yn hytrach na’u hwynebu pan fydd y crwydryn ar y blaned Mawrth.”

Mae cyfraniad Prifysgol Aberystwyth at daith crwydryn ExoMars, gan gynnwys delweddau a gynhyrchwyd gan Dr Miles, i’w gweld ar wefan newydd: http://exomars.cymru/.

Yno ceir hanes dylunio a datblygu'r caledwedd, ynghyd â gwybodaeth am y prosiectau y mae tîm Aberystwyth yn rhan ohonynt.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm PanCam, sy’n cael ei arwain gan yr Athro Andrew Coates o Labordy Gwyddoniaeth Gofod Mullard UCL ac yn cynnwys nifer o gydweithwyr rhyngwladol.

Ariennir gwaith Prifysgol Aberystwyth ac UCL ar system camera panoramig ExoMars, PanCam, gan Asiantaeth y Gofod y DU.