Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Un Byd 2018

28 Chwefror 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ac yn hyrwyddo cyfoeth ac amrywiaeth diwylliannau a chenhedloedd ei chymuned o fyfyrwyr rhyngwladol yng ngŵyl Wythnos Un Byd ddydd Llun 5 Mawrth.

Mae Wythnos Un Byd yn cael ei threfnu gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, ac mae wedi hen ennill ei phlwyf yng nghalendr blynyddol y Brifysgol. Mae’n dathlu amrywiaeth fyd-eang y Brifysgol ac yn cydnabod cyfraniad myfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Aberystwyth a'r gymuned leol.

Bydd yr ŵyl eleni’n dechrau gyda Noson Gala Wythnos Un Byd yn Undeb y Myfyrwyr nos Lun 5 Mawrth am 7.30pm, lle bydd myfyrwyr rhyngwladol o bedwar ban byd yn arddangos eu doniau mewn ystod eang o berfformiadau.

Ddydd Iau 8 Mawrth cynhelir Ffair y Byd Wythnos Un Byd.  Mae’r digwyddiad hwn, a gynhelir yn Undeb y Myfyrwyr, yn gyfle i fyfyrwyr a chymdeithasau rhyngwladol i ‘arddangos’ eu diwylliant drwy gynnal stondin, cynnig bwydydd traddodiadol, sgiliau iaith a chrefftau, a chyflwyno cerddoriaeth, bwyd a diod a gwisgoedd traddodiadol eu gwledydd i’r ymwelwyr.

Bydd gweithgareddau Wythnos Un Byd eleni’n cynnwys Cynhadledd ar Fenywod, Mudo a Ffoaduriaid, Noson Ffilmiau a thrafodaeth ar themâu byd-eang, Noson Gwis, ac Arddangosfa Ffotograffiaeth ‘Aber Fyd-eang a Menywod sy’n Fyfyrwyr Rhyngwladol: cyfraniad a llwyddiannau’.

Drwy gydol dathliadau Wythnos Un Byd, bydd bwyty TaMed Da y Brifysgol, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnig cyfres o fwydlenni arbennig yn cynnwys bwydydd o wahanol ranbarthau a gwledydd ledled y byd.

I gloi’r ŵyl ddydd Sadwrn 17 Mawrth cynhelir ein Noson Faleisia boblogaidd sy’n rhoi llwyfan i ddiwylliant amrywiol Maleisia.  Trefnir y noson gan Gymdeithas Myfyrwyr Maleisia, a theitl y digwyddiad eleni yw ‘Warna: Lliwiau Maleisia’. Mae’n argoeli’n noson wych o adloniant, gyda digonedd o gerddoriaeth, dawnsio a bwydydd traddodiadol.  Cynhelir y noson yng Nghanolfan y Celfyddydau am 6pm. Mae tocynnau, sy’n cynnwys pryd o fwyd Maleisaidd, ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232 neu ar wefan Canolfan y Celfyddydau: www.aberystwythartscentre.co.uk.

Dywedodd Lisa Fisher, Cynorthwyydd Rhyngwladol yn Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol: “Mae ym Mhrifysgol Aberystwyth gymuned fywiog o fyfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Rydym yn falch iawn o gael bod yn rhan o Brifysgol a chanddi gymuned fyd-eang mor gryf.

“Mae dathliadau Wythnos Un Byd, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yn cydnabod cyfraniad myfyrwyr rhyngwladol i’n Prifysgol ac i’r gymuned leol. Mae’n rhoi llwyfan i fyfyrwyr rhyngwladol a chartref i ddod ynghyd i ddathlu amrywiaeth diwylliannau’r Brifysgol ac yn hyrwyddo gwerth cydweithio a chyd-astudio ymhlith ein myfyrwyr a’n staff rhyngwladol a chartref.

“Fyddai yna ddim Wythnos Un Byd heb ein myfyrwyr, sy’n gweithio mor galed i wneud y dathliadau’n fwy ac yn well bob blwyddyn. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda nhw eto eleni ac edrychaf ymlaen at yr hyn sy’n argoeli’n ŵyl fywiog a diwylliannol i ddathlu Wythnos Un Byd.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd cynifer â phosib o fyfyrwyr a staff yn dod i ymuno â ni yn ein digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i ddathlu cymuned fyd-eang gyfoethog ac amrywiol Prifysgol Aberystwyth.”

 

AA9918