Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ymysg y gorau yn y byd ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

28 Chwefror 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth ymysg 50 gorau’r byd am astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn ôl cylchgrawn uchel ei barch o Washington.

Yn ôl Foreign Policy, cylchgrawn a sefydlwyd yn Harvard 40 mlynedd yn ôl, mae Prifysgol Aberystwyth yn safle 44 yn y byd am gyrsiau Meistr a 32 am rhaglenni doethuriaeth ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, a hynny yn wyneb cystadleuaeth gref o dŷ rhai o sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw’r byd.

Cynhaliwyd yr arolwg ar y cyd â phrosiect Addysgu, Ymchwil a Pholisi Rhyngwladol yng Ngholeg William & Mary, Virginia.

Gofynnwyd i ysgolheigion ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol yng ngholegau a phrifysgolion yr Unol Daleithiau i bennu safleoedd ar gyfer y rhaglenni PhD, Meistr a rhaglenni israddedigion mwyaf blaenllaw yn y maes.

Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Mae’r cylchgrawn Foreign Policy yn un o’r rhai uchaf ei barch ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol. Mae'r ffaith bod cymaint o academyddion o’r Unol Daleithiau yn gweld bod ein adran yn un o’r llefydd gorau i astudio ar lefel graddedig yn gredyd i'r adran, ei ymchwil a'i haddysgu yn gyffredinol.”

“Byddwn yn dathlu canmlwyddiant yr Adran y flwyddyn nesaf (2019) gydag ymdeimlad cliriach hyd yn oed o'n cyfraniad hirsefydlog tuag at y ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol.”

Sefydlwyd cylchgrawn Foreign Policy yn ystod cyfnod cythryblus Rhyfel Fietnam gan yr athro Samuel Huntington – oedd yn dipyn o hebog gwleidyddol, a’i ffrind agos, Warren Demian Manshel, oedd a thuedd mwy cymodlon.

Y nod a’r genhadaeth oedd herio’r farn gyffredin a’r feddylfryd dorfol a chynnig llais i safwbyntiau amgen am bolisi tramor America.

Mae gan Foreign Policy gynulleidfa fyd-eang a rhifynnau rhyngwladol ar bob cyfandir ac mae’n ymroddedig i archwilio yn fanwl rhai o faterion mwyaf y byd.