Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth

David Moyle, Pennaeth Derbyn Israddedigion a Chyswllt Ysgolion ym Mhrifysgol Aberystwyth (canolfan) gydag Andrew Wonklyn a Rebecca Flanagan o Gyrfa Cymru.

David Moyle, Pennaeth Derbyn Israddedigion a Chyswllt Ysgolion ym Mhrifysgol Aberystwyth (canolfan) gydag Andrew Wonklyn a Rebecca Flanagan o Gyrfa Cymru.

28 Chwefror 2018

Croesawodd Prifysgol Aberystwyth ddisgyblion o bob ysgol uwchradd yng Ngheredigion ddydd Mawrth 27 Chwefror, ar gyfer digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd rhyngweithiol.

Trefnwyd Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol gan Gyrfa Cymru ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth a gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Daeth dros 1,000 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled Ceredigion i’r digwyddiad, gan gasglu gwybodaeth am gyflogaeth, prentisiaethau, gwirfoddoli a chyfleoedd addysgol.

Dywedodd David Moyle, Pennaeth Derbyn Israddedigion a Chyswllt Ysgolion: “Gan adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl y llynedd, roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle gwych i ddisgyblion gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr, a chymryd rhan mewn gweithdai ac arddangosiadau rhyngweithiol.”

Dywedodd Graham Bowd, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Dangosodd y digwyddiad hwn i’r bobl ifanc bod ystod fawr o yrfaoedd gwahanol ar gael a bod llwybrau i’r gyrfaoedd hyn.

“Roedd hi’n galonogol gweld cynifer o brif gyflogwyr Cymru yn mynychu’r digwyddiad. Mae’n bwysig bod cwmnïau’n rhoi amser i fuddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol yng Nghymru a’u hysbrydoli i ystyried amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.”

 

AU9418