Parasitiaid: y da, y drwg a’r hyll

Tîm Parasitoleg cyfan IBERS ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth

Tîm Parasitoleg cyfan IBERS ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth

08 Mawrth 2018

Bydd parasitolegwyr blaenllaw'r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Brydeinig Parasitoleg o 8 tan 11 Ebrill 2018.

Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf ers 1986, gydag uwch barasitolegwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ei threfnu.

Yr Athro Karl Hoffmann sydd yn arwain y tîm.  Dywedodd: “Rydym yn falch o fod yn cynnal y digwyddiad pwysig hwn, ac yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr ac arbenigwyr byd-enwog i gyflwyno eu hymchwil a'u darganfyddiadau yn Aberystwyth.”

“Mae hyn hefyd yn gyfle i arddangos ein cynnig ehangach mewn parasitoleg i fyfyrwyr yma yn ein prifysgol â’n tref wych, gan gynnwys y cwrs Ôl-radd MRes newydd mewn Rheoli Parasit a lansiwyd yn gynharach eleni.”

Mae'r Gynhadledd yn denu dros 300 o barasitolegwyr o bob cwr o'r byd i rannu gwybodaeth a thrafod yr ymchwil ddiweddaraf mewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys darganfod a gwrthsefyll cyffuriau, imiwnoleg a brechlynnau, rheolaeth fectorau pryfed, a pharasitoleg dŵr, ecolegol, milfeddygol, bywyd gwyllt a chlinigol. "

Bydd y Gynhadledd pedwar diwrnod yn cychwyn ddydd Sul 8 Ebrill gyda digwyddiad arbennig sy'n agored i bawb am 8pm yn yr Hen Goleg ar 'Dealltwriaeth Gyhoeddus o Wyddoniaeth' gyda'r Athro Peter Chiodini.

Mae'r Athro Chiodini yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn sôn am barasitiaid y gall pobl eu dal tra ar wyliau. Ef hefyd arweiniodd y tîm oedd yn gyfrifol am wella Cheryl Cole, y bersonoliaeth cyfryngau boblogaidd, o falaria yn 2010.

Parasitolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty ar gyfer Clefydau Trofannol yw’r Athro Chiodini, ac mae'n Athro Er Anrhydedd yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, ac yn Gyfarwyddwr Labordy Cyfeirio Malaria Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) a Labordy Cyfeirio Parasitoleg Cenedlaethol PHE.

Yn ystod y digwyddiad lansio, bydd Bwrsariaeth gyntaf Rhiannon Powell i fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyflwyno.

Ar ddydd Llun, 9 Ebrill, cynhelir Caffi Gwyddoniaeth am 8pm yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar "Parasitiaid: y da, y drwg a'r hyll".

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb, ac mae'n cynnwys tri siaradwr uchel eu proffil - Yr Athro Rachel Chalmers, Yr Athro Peter Preiser a'r Athro Alex Loukas.

Yr Athro Rachel Chalmers yw Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Uned Gyfeirio Cryptosporidium GIG Cymru.

Daw'r Athro Peter Preiser o Nanyang Technological University (NTU) yn Singapore, lle mae'n arbenigo mewn astudio'r parasit malaria ac mae'n bennaeth y tîm yn NTU sydd wedi darganfod llwybr i frechlyn bosibl ar gyfer malaria.

Mae'r Athro Loukas yn dod o Brifysgol James Cook yn Awstralia ac mae'n ymchwilio i frechlynnau ar gyfer heintiau parasitiaid dynol a gwrthlidiol newydd, ar gyfer trin ystod o anhwylderau hunan-imiwnedd ac alergeddau mewn pobl, gan gynnwys salwch Crohn’s, Colitis a Syndrom Coluddyn Anniddig (IBS).