Y cyn-Arglwydd Brif Ustus i drafod dyfodol cyfiawnder yng Nghymru

Yr Arglwydd Thomas o Cwmgïedd, Canghellor Prifysgol Aberystwyth

Yr Arglwydd Thomas o Cwmgïedd, Canghellor Prifysgol Aberystwyth

09 Mawrth 2018

Bydd cyn-Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn trafod dyfodol cyfiawnder yng Nghymru mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 22 Mawrth 2018.

Pwnc darlith gyntaf yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yn ei rôl fel Canghellor newydd Prifysgol Aberystwyth fydd Justice in Wales: implementing global opportunities to meet the problems of the 21st Century.

Cynhelir y ddarlith am 6:30 yr hwyr ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. Cyn i’r ddarlith ddechrau, cynhelir derbyniad am 6 yr hwyr, a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn.

Yn ei ddarlith, bydd yr Arglwydd Thomas yn trafod ei waith fel Cadeirydd y Comisiwn dros Gyfiawnder gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar gyfleoedd i wella’r system gyfiawnder a heddlua yng Nghymru.

Bydd yn dadlau bod systemau cyfiawnder ar draws y byd yn wynebu llawer o broblemau tebyg gan gynnwys cost cyngor a chymorth cyfreithiol; oedi yn y llysoedd a'r tribiwnlysoedd; ymagwedd diogelu gyfansoddiadol ar hawliau dynol; pryderon am weithrediaeth farnwrol, ac ymosodiadau ar annibyniaeth farnwrol gan wleidyddion a’r cyfryngau poblogaidd.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd: “Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i archwilio cyfiawnder yng Nghymru, cenedl fach sydd ag iddi hanes cyfreithiol hir a system gyfreithiol ddatblygedig. Mae’n cynnig cyfle i weld beth fydd yn gweithio orau er mwyn diogelu'r gyfundrefn gyfreithiol; diffinio rôl gywir y farnwriaeth a sicrhau mynediad go iawn i gyfiawnder i bob dinesydd.”

“Mae yna lawer o gyfleoedd i wella’r ffordd rydym yn cyflawni cyfiawnder drwy leihau cost ac oedi gyda chymorth y chwyldro digidol a deallusrwydd artiffisial, ac mae angen sicrhau bod cyfreithwyr a barnwyr yn deall datblygiadau gwyddonol er mwyn annog diwygio sydd yn cael ei arwain fan y farnwriaeth, er mwyn moderneiddio addysg gyfreithiol a chyflawni gwell dealltwriaeth gyhoeddus o reolaeth y gyfraith a rôl cyfiawnder mewn cymdeithas.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae’n bleser gennym fod yr Arglwydd Thomas am lansio ei Gangelloriaeth o Brifysgol Aberystwyth gyda darlith gyhoeddus sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion mawr sy'n wynebu'r system gyfreithiol yng Nghymru. Yn ystod gyrfa hir a nodedig, dringodd yr Arglwydd Thomas i frig y farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae yna barch mawr tuag ato ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef fel ein Canghellor. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y Brifysgol yn elwa o'i gyngor, ei brofiad a'i farn ddoeth.”

Mae mynediad i’r ddarlith yn rhad ac am ddim, ond mae angen archebu tocynnau ymlaen llaw ar lein drwy wefan Tocyn Cymru.