Cyhoeddi rhestr fer InvEnterPrize 2018

Dde i’r chwith: Enillwyr InvEnterPrize 2017 Pasi Sachiti ac Ariel Ladegaard gyda threfnydd GwobrMenterAber Tony Orme, Alana Spencer, yr Athro Donald Davies, Cadeirydd y Beirniaid, Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni a’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Dde i’r chwith: Enillwyr InvEnterPrize 2017 Pasi Sachiti ac Ariel Ladegaard gyda threfnydd GwobrMenterAber Tony Orme, Alana Spencer, yr Athro Donald Davies, Cadeirydd y Beirniaid, Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni a’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

16 Mawrth 2018

Mae’r rhestr fer ar gyfer gwobr menter flynyddol Prifysgol Aberystwyth, sydd yn werth £10,000 i’r enillydd, wedi ei chyhoeddi.

Mae chwe unigolyn/tim wedi cyrraedd rownd derfynol InvEnterPrize 2018 a fydd yn cael ei chynnal ddydd Llun 19 Mawrth 2018.

Y chwech yw:

  • James Bryan, Ysgol Fusnes Aberystwyth
  • Daniel Bursztynski, Adran Cyfrifiadureg
  • Ben Butler, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Harry Dennis, Ally Hall a Sunny Bradbury, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Carlos Roldan Torregrossa, Adran Cyfrifiadureg; Daniel Bursztynski, Adran Cyfrifiadureg
  • James Stone, Adran Cyfrifiadureg; a Tom Lancaster, Ysgol Fusnes Aberystwyth

Dewiswyd y chwech o blith 22 o ymgeiswyr gan banel o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus o Brifysgol Aberystwyth o dan gadeiryddiaeth yr Athro Donald Davies o Goleg Imperial, Llundain.

Byddant yn cyflwyno eu cynigion busnes i’r panel o feirniaid mewn digwyddiad fydd yn dilyn fformat y rhaglen deledu boblogaith Dragon’s Den, ac mae disgwyl i’r enillydd gael ei gyhoeddi tua 3:30 o’r gloch brynhawn Llun.

Trefnir InvEnterPrize gan Tony Orme o Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd: “Mae safon y ceisiadau eleni wedi bod yn eithriadol o uchel ac mae’r penderfyniad terfynol yn mynd i fod yn agos iawn. Rydym yn eithriadol ddiolchgar i’n panel o feirniaid am eu hamser gwerthfawr a’u harbenigedd wrth i ni chwilio am enillydd, ac i’n cyn-fyfyrwyr am eu cefnogaeth ariannol a gwneud hyn oll yn bosibl drwy Cronfa Aber. Mae’r chwe chynnig busnes yn hynnod ddiddorol ac amrywiol ac mi fydd dewis yr enillydd, heb unrhyw amheuaeth, yn her wirioneddol i’r beirniaid.”

Bydd y cais llwyddiannus yn gallu buddsoddi ei enillion mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r ddyfais neu syniad cychwyn busnes.

Hefyd, i’w ennill eleni mae blwyddyn o ofod swyddfa am ddim yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth, i gynigion sydd yn seiliedig ar y sectorau bio-wyddoniaeth, gwyddorau bywyd ac amaeth.

Drwy gydol y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr wedi cael cyfleoedd i gael cyngor arbenigol a mynychu cyfres o weithdai a chyflwyniadau gan bobl fusnes llwyddiannus, wrth iddynt ddatblygu eu cynigion terfynol, gan dderbyn cyngor gwerthfawr ar hyd y daith.

Bydd cystadleuwyr eleni yn gobeithio efelychu llwyddiant Kar-go, a gipiodd y brif wobr yn 2017.

Cerbyd dosbarthu di-yrrwr yw Kar-go a ddatblygwyd gan y myfyrwyr Ariel Ladegaard ac Aparajit Narayan, a’r cyn-fyfyriwr Pasi William Sachiti.

Noddir InvEnterPrize drwy gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, ac mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff. Mae rhagor o wybodaeth am AperPreners ar lein yma.

Beirniaid InvEnterPrize 2018
Donald Davies (Chair) – Athro Emeritws mewn Toxicoloeg yng Ngholeg Imperial Llundain a Sefydlwr Gyfarwyddwr ML Laboratories plc, un o’r cwmnïoedd biotechnoleg cyntaf i’w restri ar Farchnad Stoc Llundain.

Jane Clayton – Cyfrifydd Siartredig a Chyfarwyddwr anweithredol profiadol. Cadeirydd Bay Leisure Limited a Trysorydd Sefydliad Meddygol Dewi Sant.

Nigel Davies – Wedi graddio a chwblhau ei astudiaethau ol-raddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio ym myd technoleg a busnes am 30 mlynedd. Yn 2003 roedd yn gyfarwyddwr sefydlu Innoval Technology, cwmni ymgynghori o’r DU ym maes technoleg sydd â chwsmeriaid ar draws y byd.

Peter Gradwell – Astudiodd Peter beirianneg meddalwedd yn Aberystwyth gan raddio yn 2002. Yn ystod ei amser yn y Brifysgol, sefydlodd gwmni cysylltiadau ar y we, Gradwell.com Ltd.

Huw Morgan – Cyn-Bennaeth Bancio Busnes gyda HSBC, bu Huw yn gweithio i HSBC am y rhan fwyaf o yrfa waith. Yn fwy diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfraint (Franchise) yn y DU.

David Sargen – Partner Rheoli gyda Derivatives Risk Solutions LLP, ymgynghoriaeth risg arbenigol sydd yn darparu arbenigedd ar draws sbectrwm eang o ddisgyblaethau o fewn y byd ariannol, gyda ffocws arbennig ar y farchnad deilliadau fyd-eang.

Kerry Diamond – Cadeirydd Bwrdd Datblygu Diwydiannol Ymgynghorol Cymreig, sydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gymorth grantiau i fusnes, Ymgynghorydd Gwella Busnes ac Is-Gadeirydd Partneriaeth Fenter Leol Stoke and Staffs. Cyn-Brif Swyddog Ariannol Zytec, cwmni ceir perfformiad uchel.

Mae pob un o’r beirniaid yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth.