Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi Prifysgol Aberystwyth

Chwith i’r Dde: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yr awdur Caryl Lewis, Stephanie Davies, enillydd gwobr Astudio Trwy’r Gymraeg, Lucy Hodson, enillydd gwobr Dysgwr Disglair, Branwen Davies enillydd gwobr Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle, Eurig Salisbury a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yr awdur Caryl Lewis, Stephanie Davies, enillydd gwobr Astudio Trwy’r Gymraeg, Lucy Hodson, enillydd gwobr Dysgwr Disglair, Branwen Davies enillydd gwobr Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle, Eurig Salisbury a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor.

19 Mawrth 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu pedwar unigolyn am eu cyfraniad at y Gymraeg mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg Nos Wener 16 Mawrth 2018.

Cyflwynwyd Gwobrau Gŵyl Dewi 2018 Prifysgol Aberystwyth i Lucy Hodson, Branwen Davies, Stephanie Davies a Delyn Fritter wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan westai gwadd y noson, yr awdures Caryl Lewis, a fu’n astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel myfyrwraig ôl-raddedig.

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, roedd y pedwar enillydd wedi’u dewis ar gyfer gwobrau gwahanol:

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Lucy Hodson
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Branwen Davies
  • Astudio Trwy’r Gymraeg – Stephanie Davies
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Delyn Fritter

Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan Eurig Salisbury, bardd a nofelydd sydd hefyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg ac Ymgysylltu Allanol: “Rwy’n falch dros ben ein bod yn dathlu cyfraniad myfyrwyr a chydweithwyr at yr iaith Gymraeg drwy’r Gwobrau hyn.  Mae’r unigolion sy’n derbyn y Gwobrau eleni wedi cyrraedd y brig, do, ond mae’n achlysur hefyd lle mae’r Brifysgol yn mynegi gwerthfawrogiad i bawb sydd yn gwneud ymdrech arbennig o ddydd i ddydd i hyrwyddo’r iaith ac i gefnogi eraill i’w defnyddio yn eu gwaith a’u hastudiaethau.  Mae’n wir i ddweud fod bywiogrwydd arbennig y gymuned Gymraeg yn y Brifysgol yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddo yn fawr iawn ac yn awyddus i barhau i’w gefnogi.”

Yr Enillwyr
Lucy Hodson (Dysgwr Disglair):
 Yn wreiddiol o Sir Gaerloyw, mae Lucy wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers 5 mlynedd wedi iddi gwel ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Cynllunio’r Brifysgol. Mae wedi ymroi yn llwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i ddysgu’r Gymraeg ac wedi sefyll arholiad Mynediad gyda Dysgu Cymraeg. Penderfynodd Lucy ddysgu’r Gymraeg er mwyn sicrhau cadw’r iaith yn fyw ac am ei bod hi’n byw yng Nghymru.

Branwen Davies (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Mae Branwen wedi gweithio yn y Brifysgol ers 10 mlynedd ac wedi cyfrannu at y Gymraeg drwy ei gwaith. Swyddog Cyhoeddiadau yw Branwen ac mae’n rhan o dîm Cyfryngau Creadigol y Brifysgol. Mae’n annog ei chyd-weithwyr di-Gymraeg i ddefnyddio’r iaith gan roi cyfieithiad a chyd-destun geiriau Cymraeg iddynt wrth gyfathrebu ar y ffôn neu mewn e-bost, yn ogystal â chyflwyno ‘Gair yr Wythnos’ yn y swyddfa sy’n esbonio ystyr a sut i ynganu geirfa.

Stephanie Davies (Astudio Trwy’r Gymraeg): Myfyrwraig yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Drama ag Astudiaethau Theatr yw Steph. Yn wreiddiol o Gaerffili, hi yw unig aelod y teulu sy’n siarad Cymraeg. Fe ddysgodd hi’r Gymraeg drwy fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond rhoi’r gorau iddi wrth fynychu ysgol chweched dosbarth cyfrwng Saesneg. Penderfynodd ail gydio yn ei Chymraeg a dyma’r prif reswm iddi ddewis Aberystwyth fel prifysgol, yn ogystal â’r cyfleon sydd i astudio trwy’r Gymraeg.

Delyn Fritter (Pencampwr y Gymraeg): Yn wreiddiol o gatref ddwyieithog ym Mhontypŵl, mae Delyn yn fyfyrwraig ail flwyddyn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Fe benderfynodd hi ddod i’r Brifysgol yn Aberystwyth oherwydd y Gymraeg a’r dewis sydd i astudio ei phwnc yn y Gymraeg. Mae’r amryw gyfleoedd mae wedi ymgymryd â hwy yn y Gymraeg wedi arwain at ei hethol yn Swyddog Materion Cymraeg Pwyllgor Cymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Ymdrecha hi’n wythnosol i gynnig sesiynau Cymraeg i aelodau di-Gymraeg y gymdeithas.