Lansio Cyffro a Rhyfeddod Gwyddoniaeth

Yn y llun mae Fflur Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol CAA Cymru (cefn chwith),  Dr Huw Morgan (cefn dde), Carys Huntly (blaen chwith) a Martin Nelmes (blaen dde) o'r Adran Ffiseg, a rhai o ddisgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Penweddig yn lansio Cyffro a Rhyfeddod Gwyddoniaeth

Yn y llun mae Fflur Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol CAA Cymru (cefn chwith), Dr Huw Morgan (cefn dde), Carys Huntly (blaen chwith) a Martin Nelmes (blaen dde) o'r Adran Ffiseg, a rhai o ddisgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Penweddig yn lansio Cyffro a Rhyfeddod Gwyddoniaeth

23 Mawrth 2018

Cafodd gwefan wyddoniaeth newydd ar gyfer disgyblion 7-16 oed ei lansio gan CAA Cymru, Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 22 Mawrth, 2018.

Bwriad y wefan, Cyffro a Rhyfeddod Gwyddoniaeth, yw ysgogi’r meddwl a thanio awydd disgyblion i ymchwilio ymhellach i gwestiynau gwyddonol sy’n codi yn eu bywydau bob dydd.

Bydd hefyd yn cymhwyso cynnwys Gwyddoniaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a manylebau Gwyddoniaeth TGAU newydd CBAC.

Noddwyd yr adnodd gan Lywodraeth Cymru, a’r awdur yw Cerian Angharad o gwmni Gweld Gwyddoniaeth, Caerdydd.

Dywedodd Fflur Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol CAA Cymru: “Bydd yr adnodd hwn ar gael i ysgolion trwy Hwb, gyda chanllawiau i athrawon ar sut i’w ddefnyddio yn effeithiol gyda’r disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.

“Ceir dros 50 o gwestiynau gwyddonol i ddysgwyr eu hystyried, yn ogystal ag awgrymiadau am weithgareddau ac arbrofion amrywiol. Bydd y wefan yn adnodd cyfrwng Cymraeg hynod werthfawr i ysgolion Cymru.”

Bu criw o ddisgyblion blwyddyn 7 o Ysgol Gyfun Penweddig yn y lansiad i wrando ar sgwrs am gysawd yr haul a’r planedau gan Dr Huw Morgan o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth.

Roedd cyfle hefyd iddynt gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gwyddonol, a bydd y digwyddiad ar gael ar wefan CAA Cymru www.aber.ac.uk/caa yn fuan.

Mae CAA Cymru, un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf Cymru, yn cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg – yn llyfrau ac adnoddau digidol. Fe gyhoeddwyd oddeutu 2,500 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982.