Drwy ddrws dychymyg: y diwylliant hunlun yn llunio ein dyfodol?

Delwedd o ‘Into the Looking Glass- how selfie culture is preparing us to meet our future selves’

Delwedd o ‘Into the Looking Glass- how selfie culture is preparing us to meet our future selves’

28 Mawrth 2018

Mae ffilm am ddyfodol y diwylliant hunlun a gynhyrchwyd gan ddau o ddarlithwyr cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Dysgu ar Sgrin, Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain 2018.

Cynhyrchwyd Into the Looking Glass- how selfie culture is preparing us to meet our future selves gan Dr Greg Bevan a Dr Glen Creeber o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol. 

Mae’r traethawd fideo 24 munud yn edrych yn fanwl ar ddyfodol y diwylliant hunlun a’i ymlediad drwy gyfrwng technoleg glyfar.

Mae’r elusen Dysgu ar Sgrin, Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain yn sefydliad ar gyfer arbenigwyr sy’n defnyddio ffilm mewn addysg ac yn darparu cronfeydd data academaidd ar-lein, adnoddau fideo ar alw, hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor.

Dywedodd Dr Bevan: "Mae defnyddio traethodau fideo fel allbynnau academaidd yn syniad cymharol newydd. Rydych yn ymgysylltu gyda’ch cynulleidfa mewn modd mwy creadigol. Mae’n ffordd o gyflwyno damcaniaethau a chysyniadau i gynulleidfaoedd newydd nad yw’n academaidd ac na fyddai’n ddarllen erthygl academaidd fel rheol.”

Mae'r ffilm yn edrych ar y syniad bod y sgrin yn agosau at y gwyliwr- yn gyntaf o’r sinema leol ac yna o gornel y lolfa.

Erbyn hyn mae'r sgrin ar gael ar ffurf tabled neu ffôn a beth fydd yn gorwedd tu hwnt i setiau VR a’r oriawr glyfar?

A fydd mewnblaniadau yn y llygaid a’r ymennydd yn golygu bydd y sgrîn yn diflannu'n gyfan gwbl? A fydd y gwyliwr a’r technoleg yn ymdoddi i’w gilydd yn y pendraw?

Dywedodd Dr Creeber: "Mae’r syniadau a archwilir yn y ffilm yn effeithio ar gymdeithas heddiw a’r dyfodol. Nid yn unig bod y sgrîn yn ymneshau ond rydym yn gweld ein hunain wedi adlewyrchu ynddo yn fwy fyth.

“Nid gwylwyr goddefol yn gwylio'r sgrîn o bell, ydym mwyach, rydym yn gyfranogwyr gweithredol. Mae’r ffilm yn awgrymu rhai ffyrdd y gallai’r datblygiadau hyn fod o fudd i ddynoliaeth yn hytrach na bod yn besimistaidd am effaith y dechnoleg arnom.

Cyfansoddwyd sgôr wreiddiol y ffilm gan Dr Alan Chamberlain, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Mixed Reality Lab, Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, Prifysgol Nottingham.

Dywedodd Dr Alan Chamberlain: “Mae'n gyffrous ein bod wedi ein henwebu am y wobr a bod pwysigrwydd y cydweithio yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi dangos sut mae ymchwil traws-ddisgyblaethol ac ar draws prifysgolion yn talu ar ei ganfed.”

 "Mae'r prosiect hwn yn uno’r celfyddydau a'r gwyddorau mewn ffordd ddiddorol ac arloesol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwerdy creadigol yn nhirwedd academaidd Cymru ac mae wedi bod yn brofiad gwych i weithio gyda phobl yno a chynllunio ein prosiect nesaf.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn y Southbank BFI, Llundain ar 26 Ebrill 2018.