Ffilm hunlun yn ennill Gwobr Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain

Dr Greg Bevan (chwith) a Dr Glen Creeber, cynhyrchwyr ‘Into the Looking Glass- how selfie culture is preparing us to meet our future selves’

Dr Greg Bevan (chwith) a Dr Glen Creeber, cynhyrchwyr ‘Into the Looking Glass- how selfie culture is preparing us to meet our future selves’

04 Mai 2018

Mae ffilm am ddyfodol y diwylliant hunlun a gynhyrchwyd gan ddau ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn canmoliaeth am “safon uchel iawn y cynhyrchiad” gan feirniaid Gwobrau Dysgu ar Sgrin, Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain 2018.

Cyhoeddwyd mai Into the Looking Glass- how selfie culture is preparing us to meet our future selves gan Dr Greg Bevan a Dr Glen Creeber oedd enillydd categori Gwobr Traethawd Clywedol y gwobrau a gynhaliwyd yn y BFI yn Llundain ddydd Iau 26 Ebrill 2018.

Mae’r traethawd fideo 24 munud yn edrych yn fanwl ar ddyfodol y diwylliant hunlun a’i ymlediad drwy gyfrwng technoleg glyfar.

Mae’r elusen Dysgu ar Sgrin, Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain yn sefydliad ar gyfer arbenigwyr sy’n defnyddio ffilm mewn addysg ac yn darparu cronfeydd data academaidd ar-lein, adnoddau fideo ar alw, hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor.

Dywedodd Glen Creeber: “Hoffem ddiolch yn ddiffuant i'r 'Gwobrau Dysgu ar y Sgrîn' am y gydnabyddiaeth wych hon. Dyma'r traethawd fideo cyntaf i ni ei gynhyrchu erioed, ac felly derbyn y deyrnged hon yn rhoi boddhad arbennig a bydd yn ein hannog i wneud llawer mwy yn y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar un newydd am y defnydd o Realiti Rhithiol yn yr ystafell ddosbarth - ni allwn ond gobeithio y bydd yr ymateb iddo gystal â’n cyntaf.”

Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Rwy’n hynod falch bod gwaith gwreiddiol dau gydweithiwr yn cael ei gydnabod fel hyn. Mae’n dyst i’w hymrwymiad i ddysgu ac addysgu da sydd wedi’i ysbrydoli gan ac sy’n addas i ofynion a heriau eu meysydd arbenigol; astudiaethau ffilm. Dyma Addysg Uwch ar ei orau.”

Cyn y seremoni wobrwyo, Dywedodd Dr Bevan: "Mae defnyddio traethodau fideo fel allbynnau academaidd yn syniad cymharol newydd. Mae’n ffordd o ymgysylltu gyda’ch cynulleidfa mewn modd mwy creadigol, ac yn ffordd o gyflwyno damcaniaethau a chysyniadau i gynulleidfaoedd newydd nad yw’n academaidd ac na fyddai’n darllen erthygl academaidd fel rheol.”

“Rydym yn gobeithio hefyd fydd y traethawd fideo’n gymorth addysgu defnyddiol ym meysydd megis cyfryngau digidol, diwylliant digidol, cyfryngau a chyfathrebu, a thu hwnt.”

Mae'r ffilm yn edrych ar y syniad bod y sgrin yn agosau at y gwyliwr- yn gyntaf o’r sinema leol ac yna o gornel y lolfa. Erbyn hyn mae'r sgrin ar gael ar ffurf tabled neu ffôn a beth fydd yn gorwedd tu hwnt i setiau VR a’r oriawr glyfar? A fydd mewnblaniadau yn y llygaid a’r ymennydd yn golygu bydd y sgrîn yn diflannu'n gyfan gwbl? A fydd y gwyliwr a’r dechnoleg yn ymdoddi i’w gilydd yn y pendraw?

Cyfansoddwyd sgôr wreiddiol y ffilm gan Dr Alan Chamberlain, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Mixed Reality Lab, Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, Prifysgol Nottingham.

Dywedodd Dr Alan Chamberlain: “Mae'n gyffrous ein bod wedi ein henwebu am y wobr a bod pwysigrwydd y cydweithio yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi dangos sut mae ymchwil traws-ddisgyblaethol ac ar draws prifysgolion yn talu ar ei ganfed.”

 "Mae'r prosiect hwn yn uno’r celfyddydau a'r gwyddorau mewn ffordd ddiddorol ac arloesol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwerdy creadigol yn nhirwedd academaidd Cymru ac mae wedi bod yn brofiad gwych i weithio gyda phobl yno a chynllunio ein prosiect nesaf.”