Myfyrwyr mentrus yn lansio ap gwallt a harddwch

Cyflwyno gwobr InvEnterPrize a siec am £10,000 i CPILR: Chwith i’r Dde – Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Donald Davies, Cadeirydd Panel Beirniaid Inventerprize; datblygwyr CLIPR Howun Lam, James Stone and James Bryan; Tony Orme, Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwyno gwobr InvEnterPrize a siec am £10,000 i CPILR: Chwith i’r Dde – Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Donald Davies, Cadeirydd Panel Beirniaid Inventerprize; datblygwyr CLIPR Howun Lam, James Stone and James Bryan; Tony Orme, Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth.

11 Mehefin 2018

Mae myfyrwyr mentrus o Aberystwyth wedi lansio ap ffôn symudol a all chwyldroi’r ffordd mae pobl yn gwneud apwyntiadau yn y sector gwallt a harddwch.

Mae CLIPR, sy’n galluogi cwsmeriaid i wneud apwyntiadau ar eu ffôn symudol neu dabled, wedi ei lansio at Google Play.

Bu’r datblygwyr James Bryan, James Stone a Howun Lam yn gweithio gyda busnesau gwallt a harddwch yn Aberystwyth i ddatblygu’r ap er mwyn eu galluogi i redeg eu busnesau o’u ffônau symudol.

Maent ar hyn o bryd yn gofyn i’w cyd-fyfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd i brofi’r ap drwy drefnu apwyntiadau, ac adrodd yn ôl ar beth sy’n gweithio neu beidio.

Mae’r tîm wedi cynhyrchu posteri’n arbennig i fusnesau roi yn eu ffenestri sy’n cynnwys cod QR sy’n ei wneud yn haws i lawrlwytho’r ap.

“Cyfuniad o Airbnb ac Uber ar gyfer y byd gwallt a harddwch yw CLIPR”, meddai James Bryan, a gafodd ei ysbrydoli wrth chwilio am salon trin gwallt oedd ar agor ar ddydd Sul yn Aberystwyth. “Mae defnyddio’r ap yn syml ac yn hawdd a bydd yn gyfarwydd i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol.”

“Mae graddio ychydig wythnosau i ffwrdd, ac felly dwi’n siŵr bydd nifer o fyfyrwyr am wneud apwyntiadau mewn salonau neu gyda barbwr yn Aberystwyth cyn y diwrnod mawr. Byddwn wrth ein bodd petai gymaint o bobl â phosib yn lawrlwytho’r ap, yn arbrofi a gadael adborth, a hyd yn oed yn gwneud apwyntiad. Dim ond drwy gael yr adborth y gallwn fynd ati i wella’r ap ar gyfer y defnyddwyr a’r busnesau”, dywedodd James.

Enillodd CLIPR gystadleuaeth entrepreneuriaeth flynyddol Prifysgol Aberystwyth, InvEnterPrize, ym mis Mawrth.

Ynghyd â theitl enillwyr InvEnterPrize, derbyniodd y tîm yn derbyn £10,000 i’w fuddsoddi er mwyn datblygu’r cysyniad.

Gyda’r fersiwn Android wedi’i lansio, mae’r tîm bellach yn datblygu fersiwn iOS ar gyfer ffônau apple.

Maent hefyd yn recriwtio mwy o fusnesau gwallt a harddwch i ymuno â’r ap, a’u gobaith yw gwneud Aberystwyth y dref gyntaf yn Ewrop i gysylltu’u holl fusnesau gwallt a harddwch o fewn yr un ap.

CLIPR oedd y 4ydd syniad busnes i ennill InvEnterPrize.

Darperir y wobr o £10,000 gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber ac mae’n galluogi’r enillydd i fuddsoddi mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r ddyfais neu syniad cychwyn busnes.

Dywedodd Cadeirydd y beirniaid InvEnterPrize 2018, yr Athro Donald Davies: “Mae InvEnterPrize yn hynod bwysig ac mae’n ysbrydoli myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i fentro a datblygu syniadau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn maent yn ei wneud fel arfer. Mae mor bwysig i hau’r syniad y gall myfyrwyr ddatblygu’n fusnes, ac mae’r gystadleuaeth hon, ynghyd â’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i’r timau drwy’r flwyddyn gan wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn gwneud hyn i gyd yn bosib.”

Dywedodd trefnydd InvEnterPrize Tony Orme o Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth: “Mae James yn fyfyriwr hynod fentrus sydd wedi gwneud y mwyaf o gefnogaeth y Brifysgol i fentrau myfyrwyr drwy gydol ei astudiaethau yn Aberystwyth. Fe wnaeth y tîm gyflwyniad arbennig yn rownd derfynol fformat Dragons Den InvEnterPrize ac yn enillwyr haeddiannol iawn o’r wobr £10,000 eleni”. 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd entrepreneuriaidd ymhlith myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff. Mae rhagor o wybodaeth am AperPreners ar lein yma.