Cydnabod cyfraniad oes academydd o Aberystwyth i faes Cysylltiadau Rhyngwladol

Yr Athro Ken Booth, enilydd Gwobr Cyfraniad Nodedig Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain (BISA).

Yr Athro Ken Booth, enilydd Gwobr Cyfraniad Nodedig Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain (BISA).

29 Mai 2018

Mae cyfraniad oes arbenigwr blaenllaw ym maes astudiaethau strategol, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol a diogelwch byd-eang wedi ei gydnabod gan Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain (BISA).

Cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Nodedig BISA i’r Athro Ken Booth o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yng nghynhadledd flynyddol BISA a gynhaliwyd yng Nghaerfaddon ar 13-15 Mehefin 2018.

Mae'r Wobr Cyfraniad Nodedig yn cydnabod cyfraniad unigolyn at hyrwyddo rhagoriaeth ym maes disgyblaeth Astudiaethau Rhyngwladol dros gyfnod sylweddol o amser.

Yn ôl BISA mae’r derbynnydd yn unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad amlwg a nodedig at ddatblygiad deallusol ac arweinyddiaeth y ddisgyblaeth, gyda chofnod o gyflawniad y cydnabyddir ei fod wedi ychwanegu cryn fri at Astudiaethau Rhyngwladol yn y DU a thu hwnt.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Estynnaf fy llongyfarchiadau cynhesaf i'r Athro Booth ar dderbyn y wobr hon, sy'n gydnabyddiaeth haeddiannol o’i gyfraniad oes i faes Cysylltiadau Rhyngwladol. Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi chwarae rhan arloesol yn natblygiad y ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, a ddeilliodd o chwalfa waedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Â hithau’n agosau at ei chanmlwyddiant, yn 2019, mae'n briodol bod un o aelodau mwyaf nodedig yr Adran yn cael ei gydnabod yn y modd hwn.”

Daeth yr Athro Booth i Aberystwyth fel myfyriwr ac mae wedi treulio ei yrfa academaidd gyfan yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn ddeiliad nifer o swyddi ymweld yng Ngholeg Rhyfel Morol yr UDA, Prifysgol Dalhousie (Canada), Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol De California, Phrifysgol Antwerp a Phrifysgol Genedlaethol Malaysia.

Rhwng 1999 a 2005, ef oedd Pennaeth yr Adran, ac ef hefydd oedd deiliad cyntaf Cadair EH Carr.

Ar hyn o bryd mae’n Llywydd Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies, ac yn olygydd y cyfnodolyn International Relations, ac yn ddiweddar cafodd ei ddyrchafu yn Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Booth yn gyn Gadeirydd BISA, a sefydlwyd yn 1975 i hyrwyddo Astudiaethau Rhyngwladol, ac ef oedd ei Llywydd cyntaf. Gwasanaethodd ddwywaith ar banel Ymarfer Asesiad Ymchwil y Cyngor Cyllido Addysg Uwch ar gyfer Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol.

Mae’n awdur neu’n olygydd 29 o lyfrau, ei hun neu ar y cyd ag eraill, a chyfieithwyd ei waith i ddwsin o ieithoedd, gan gynnwys Tsieinëeg, Rwsieg ac Arabeg. Mae hefyd wedi cyflwyno papurau mewn bron i 30 o wledydd.

Ef yw’r unig un yn ei faes sydd wedi ei ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, sydd wedi derbyn Gwobr Susan Strange Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol (UD) (am ei gyfraniad at herio doethineb gonfensiynol a hunanfodlonrwydd broffesiynol), a nawr Gwobr Cyfraniad Nodedig BISA.