Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

01 Awst 2018

O farddoniaeth i fathemateg, mae gan Brifysgol Aberystwyth rywbeth at ddant pawb yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Dewch i’n gweld ar ein stondin gerllaw’r Senedd, ein harddongsfeydd yn y Babell Wyddoniaeth, ein tipi ar faes gwersylla Maes B yn Ysgol Fitzallan neu un o’n darlithoedd ym mhabell y Cymdeithasau. 

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o uchafbwyntiau’r calendr i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n gyfle i ni rannu rhywfaint o’n gwaith ymchwil a’n syniadau gyda chynulleidfa ehangach trwy ddarlithoedd, digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol,” meddai’r Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth.

“Mae hefyd yn gyfle i ni ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol, i gadw cysylltiad gyda myfyrwyr presennol ac i ail-gysylltu gyda’n cyn fyfyrwyr. Mae’n mynd i fod yn wythnos brysur ond edrychwn ymlaen at gyfarfod ymwelwyr hen a newydd yng Nghaerdydd.”

Stondin Aber (303-304)

Am 2 o’r gloch brynhawn dydd Llun 6 Awst bydd yr Athro M Wynn Thomas yn holi Dr Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ynghylch ei chyfrol arloesol ar gyfieithiadau dramataidd, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu

Bydd y Prifardd Hywel Griffiths o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn darllen a thrafod cerddi o’i gyfrol ddiweddar, Llif Coch Awst  am 12 o’r gloch ar ddydd Mawrth, 7 Awst gan ddarllen cerddi sydd yn trafod gwyddoniaeth a thirwedd y Ddaear a phlanedau eraill.

Brynhawn Mercher 8 Awst yn ôl yr arfer, fe fyddwn ni’n cynnal ein haduniad poblogaidd i gyn fyfyrwyr ond eleni byddwn ym mwyty Ffresh yng Nghanolfan y Mileniwm am 2.30 o’r gloch yn hytrach nag ar y stondin.

Bydd y stondin yn troi’n sinema ar fore dydd Iau, 9 Awst am 11.30 o’r gloch, gyda dangosiad ffilm arobryn Meleri Morgan Dwy Chwaer a Brawd a enillodd iddi wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru pan oedd hi’n fyfyrwraig yn Aber.

Yn dilyn, bydd dangosiad o ffilm y darlithydd Ffilm, Dr Ffion Jones, Edafedd Dŵr, sy’n canolbwyntio ar ffermwyr ardal Talybont, Ceredigion a’u profiadau o ddŵr a’u hatgofion o lifogydd.

Fore dydd Gwener, 10 Awst am 11 o’r gloch, bydd cyfle i brofi eich sgiliau mathemateg drwy roi cynnig ar nifer o bosau diddorol cyn troi at y byd cyfieithu am 1 o’r gloch mewn sesiwn yn hyrwyddo’r cwrs uwchraddedig, Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Cynhelir hefyd gystadleuaeth ysgafn i daclo termau cyfieithu.

Os oes angen hoe fach wrth grwydro’r maes, bydd paned a chroeso ar y stondin, cornel i ddifyrru’r plantos, Sgrîn Fawr i wylio’r cystadlu a’r prif seremonïau, taith rithwir o Aber a digon o gwmni difyr.

Mae’r manylion i’w cael yn llawn yn ein rhaglen o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2018 sydd ar ein gwefan.

Bydd cyfle i weld staff y Brifysgol wrth eu gwaith ar y maes mewn lleoliadau gwahanol yn ystod yr wythnos hefyd.

Pabell y Cymdeithasau (3)

Ym Mhabell y Cymdeithasau (3) yn adeilad y Senedd ar ddydd Llun 6 Awst am 2:45yp o’r gloch bydd ein darlithwyr Eurig Sailsbury, Hywel Griffiths ac eraill yn cynnal sesiwn hwyliog ar farddoniaeth O’r Pier Pressure i’r Pierhead.

Ddydd Mawrth 7 Awst, bydd Darlith E G Bowen; ‘Y Genedl Oddefgar? am 4.15yp gyda Dr Rhys Dafydd Jones o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – WISERD @ Aberystwyth yn traddodi ar ‘Prymadael, perthyn, ac ymfudwyr o ganolbarth Ewrop.’

Trafod Polisi Iaith

Dydd Mercher 8 Awst am 1 o’r gloch, mae gwahoddiad i drafod gwaith ymchwil cyfoes ym maes polisi a chynllunio iaith yng nghwmni Yr Athro Rhys Jones, Dr Elin Royles, Dr Huw Lewis a'r Dr Rhodri Llwyd Morgan ym mar gwaelod Gwesty Jolyons, ym Mae Caerdydd.

Theatr a Drama

Mae’r Brifysgol ynghlwm â thri perfformiad theatrig yn ystod yr wythnos.

Ddydd Mercher 8 Awst yng Nghaffi’r Theatrau, llwyfennir Y Gadair Ddu, darn o theatr gorfforol a ddyfeisiwyd gan bobl ifanc Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac sy’n ymdrin â gobeithion, celfyddyd, a cholli bywyd yn ifanc. Mae'r darn yn ymateb gan y bobl ifanc i hanes Hedd Wyn a cholledion y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd â gobeithion i'r dyfodol a’r genhedlaeth newydd.

Crewyd Cadair Eisteddfod Genedleathol Môn y llynedd, i nodi canrif ers Cadair Ddu Penbedw, gan Rhodri Owen a raddiodd mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Un arall o raddedigion Aber, Osian Rhys Jones, a raddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru oedd enillydd y Gadair honno.

Mae Aberration ar Daith hefyd yn yr Eisteddfod ar ddydd Gwener 10 Awst am 1 o’r gloch yn y Llanerch. Yr awdur a’r darlledwr Mike Parker sy’n cyflwyno detholiad o cabaret hoyw blasus. Harmoniau o’r enaid gan Mer Gân, a llenyddiaeth llafar gan aelodau Cywion Cranogwen.Mae Aberration yn noson gelfyddydol LHDT+ yn Aberystwyth, sy’n teithio dros yr haf gyda chefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth,

Llwyfennir drama fuddugol Cystadleuaeth y Fedal Ddrama y llynedd, Milwr yn y Meddwl drwy gydol yr wythnos 6-10 Awst yn Theatr y Maes. Dyma waith y dramodydd Heiddwen Tomos sy’n gyn fyfyrwraig Drama a Chymraeg yn Aberystwyth.

Y Babell Wyddoniaeth

Mae’r Brifysgol hefyd yn bresennol yn y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg lle bydd cyfle i glywed am y gwaith ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud yn ein hadrannau Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg yn ogystal â rhoi cynnig ar ambell her.

Maes B

Prifysgol Aberystwyth yw noddwr Maes B eleni eto.  Disgwylir y bydd miloedd yn mynychu Maes B, sy’n cael ei ddisgrifio gan y trefnwyr fel “brawd bach swyddogol yr Eisteddfod liw nos”. Bydd Tipi Aber ar faes gwersylla Maes B, yn cynnig gofod gorffwys a lle i wefru ffonau symudol.

Yn ogystal, bydd cynrychiolwyr o’r Brifysgol ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn y Tipi i roi cyngor ar fywyd prifysgol gwta wythnos cyn cyhoeddi canlyniadau lefel A.