Gwahodd enwebiadau i swydd Dirprwy Ganghellor

Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn cyflwyno’r Athro Ann Sumner yn Gymrawd yn ystod Graddio 2018.

Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn cyflwyno’r Athro Ann Sumner yn Gymrawd yn ystod Graddio 2018.

21 Rhagfyr 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd enwebiadau i rôl anrhydeddus y Dirprwy Ganghellor.

Byddai deiliad y rôl yn dirprwyo pan fydd y Canghellor yn absennol a byddai'n cyflawni dyletswyddau seremonïol yn bennaf, a allai gynnwys llywyddu mewn seremonïau graddio neu weithredu fel llysgennad ar ran y Brifysgol mewn digwyddiadau.

Byddai’r penodiadau am dymor cychwynnol o dair blynedd, y gellir eu hadnewyddu am ail dymor o dair blynedd.

Mae'r Brifysgol yn awyddus i benodi un Dirprwy Ganghellor neu fwy yn ystod 2019 ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer o leiaf un o'r rolau.

Golyga natur y rôl ei bod yn addas i unigolion sydd yn byw o fewn pellter teithio rhesymol i Brifysgol Aberystwyth, ac sydd yn gallu ymgymryd â swyddogaethau yn y Brifysgol o gwmpas ymrwymiadau personol eraill.

Dylai enwebiadau nodi profiad unigolyn ac addasrwydd ar gyfer eu penodi, a dylid eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Brifysgol, ynghyd รข CV byr, erbyn 17:00 ddydd Gwener 18 Ionawr 2019. Gall unigolion hunan-enwebu.

Mae rhagor o wybodaeth am rôl anrhydeddus Dirprwy Ganghellor ar wefan y Brifysgol: www.aber.ac.uk/dirprwy-ganghellor.