Maleisia, Gwir Asia! Noson Maleisia Aberystwyth 2019

Noson Faleisaidd Aberystwyth 2018

Noson Faleisaidd Aberystwyth 2018

14 Chwefror 2019

Mae Noson Faleisaidd flynyddol Aberystwyth, nos Sadwrn 23 Chwefror, yn addo bod yn noson arbennig o adloniant a fydd yn rhoi llwyfan i gyfoeth diwylliannol Maleisia.

Trefnir y noson Maleisia, Gwir Asia! gan Gymdeithas Myfyrwyr Maleisaidd y Brifysgol, ac mae'n mynd i fod yn noson i'w chofio o berfformiadau a bwydydd gwirioneddol draddodiadol o Faleisia.

Dywedodd Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth:  “Mae Prifysgol Aberystwyth yn hynod falch o'i chysylltiau hir sefydlog â Maleisia sy'n mynd yn ôl i 1948 pan ddaeth y cyntaf o'n myfyrwyr Maleisaidd i astudio'r Gyfraith. Ers hynny mae cannoedd o fyfyrwyr wedi dod o Faleisia i astudio yn Aberystwyth, gan ddod â bwrlwm eu diwylliant gyda nhw i lannau Ceredigion.

“Mae Noson Maleisia yn dathlu'r myfyrwyr hyn a'u gwlad. Bydd amrywiaeth o berfformiadau ar y noson, gan gynnwys canu a dawnsio traddodiadol mewn gwisgoedd lliwgar yn ogystal â pherfformiadau mwy cyfoes. Heb anghofio'r bwyd Maleisaidd a gynigir yn rhan o'r noson - agwedd bwysig iawn o ddiwylliant Maleisia, ac yn bendant yn werth rhoi cynnig arno!

Mae'r myfyrwyr wedi gweithio mor galed i gynnal achlysur arbennig, a gobeithio y bydd llawer o fyfyrwyr, staff a phobl leol yn dod i'w cefnogi. Dewch draw i gael blas ar Faleisia!”

Cynhelir Maleisia, Gwir Asia! am 6 yr hwyr, nos Sadwrn 23 Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Bydd tocynnau, sy'n cynnwys pryd o fwyd Maleisaidd, ar gael o'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232 neu o wefan Canolfan y Celfyddydau
www.aberystwythartscentre.co.uk/festivals/malaysia-truly-asia

Bydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn dathlu a hyrwyddo holl gyfoeth ac amrywiaeth diwylliannau a chenhedloedd cymuned ei myfyrwyr rhyngwladol yn ei gŵyl Wythnos Un Byd a gynhelir rhwng 4 ac 8 Mawrth 2019.

Trefnir Wythnos Un Byd gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol ac erbyn hyn mae'n achlysur blynyddol sydd wedi hen ymsefydlu yng nghalendr y Brifysgol. Mae'n dathlu amrywiaeth eang diwylliannol y Brifysgol a'r cyfraniad y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei wneud i'r Brifysgol a'r gymuned leol.