Cryfhau cysylltiadau’r Gymraeg a’r Llydaweg

(cefn o’r chwith i’r dde): Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth; Jean-Yves Kervarec; Drian Bernier; Olier Loussouarn; Jos Sicard-Cras; Phyl Brake, Cydlynydd Dysgu Cymraeg. (blaen o’r chwith): Yannig Menguy, Arnaud Goapper, Anne Lefbvre, Joan Bizien

17 Ebrill 2019

Mae criw o athrawon Llydaweg wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu mwy am y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu i oedolion.

Bu cynrychiolwyr o sefydliad Mervent yn mynychu dosbarthiadau yng Nghanolfan Dysgu Cymraeg y Brifysgol yn Aberystwyth ddydd Mercher 10 Ebrill 2019.

Mervent sy’n gyfrifol am drefnu cyrsiau Llydaweg a chyrsiau dwys i oedolion ac mewn ysgolion yn Llydaw.

Pwrpas yr ymweliad oedd iddynt gael blas ar waith y Ganolfan, megis datblygiadau’r cwricwlwm cenedlaethol, cynnwys y cyrsiau a rhannu profiadau ac arfer da o ddysgu iaith.

Dywedodd Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth: “Dw i’n falch iawn o’r cyfle i groesawu ymwelwyr o Lydaw i Aberystwyth. Rydym yn rhan o’r un ymdrech i adfer iaith Geltaidd drwy ei dysgu i oedolion. Mae hwn yn gyfle i ni ddysgu gwersi gan ein gilydd, a rhannu gobaith gyda’n gilydd.”

Ar eu hymweliad â Chymru, mynychodd y Llydawyr ddosbarthiadau yn Y Barri a Phontypridd hefyd.

Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/.