Clwb Heicio Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â’r Weatherman Walking

Derek Brockway ac aelodau Clwb Heicio Prifysgol Aberystwyth, Aberhike.

Derek Brockway ac aelodau Clwb Heicio Prifysgol Aberystwyth, Aberhike.

25 Ebrill 2019

Bydd aelodau o Glwb Heicio Prifysgol Aberystwyth, Aberhike yn ymddangos mewn pennod o gyfres boblogaidd BBC Wales, Weatherman Walking, nos Wener 26 Ebrill 2019.

Mae’r gyfres wyth rhaglen ddiweddaraf o Weatherman Walking: The Welsh Coast, yn cael ei chyflwyno gan y dyn tywydd Derek Brockway ac yn clodfori arfordir trawiadol Cymru.

Yn y bumed pennod, sy’n cael ei ddarlledu ar BBC One Wales am 7.30yh nos Wener 26 Ebrill, bydd y meteorolegydd a’r crwydryn yn archwilio’r arfordir rhwng Ynyslas ac Aberystwyth.

O’i fan cychwyn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas, bydd Derek yn cerdded i gyfeiriad Cors Fochno, un o gorsydd mawn pwysicaf Prydain. Ac yna, ymlaen i’r Borth cyn brwydro’r tonnau tra’n padlfyrddio.

Ar ôl dychwelyd i dir sych, bydd Derek yn parhau ar hyd yr arfordir gan fwynhau golygfeydd godidog Wallog a Sarn Cynfelyn.

Yna, ychydig ymhellach ar hyd llwybr yr arfordir, yng Nghlarach bydd aelodau o Aberhike yn ymuno ag ef a’i dywys hyd at Graig Lais a’r trên bach adnabyddus, ac yn sgwrsio am yr ardal a’r Brifysgol.

Bydd Derek yn gorffen ei daith ger adfeilion Castell Aberystwyth, ac adeilad rhestredig Gradd I eiconic y Brifysgol, yr Hen Goleg ger y lli.