Tair gwobr i Aberystwyth yng ngwobrau Whatuni

26 Ebrill 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill tair gwobr yng ngwobrau blynyddol Whatuni Student Choice Awards 2019.

Mewn seremoni arbennig yn Llundain ddydd Iau 25 Ebrill, enillodd Aberystwyth y wobr aur yn y categori Ôl-raddedig am yr ail flwyddyn yn olynol, a’r wobr arian yn y categorïau ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn a Rhyngwladol.

Roedd y Brifysgol hefyd yn rhestr y deg uchaf yn y DU yn y categorïau ar gyfer Llety a Chlybiau a Chymdeithasau.

Bellach yn eu chweched blwyddyn, caiff prif wobrau Whatuni eu dyfarnu ar sail adolygiadau gan fyfyrwyr.

Ar gyfer 2019, casglwyd mwy na 41,000 o adolygiadau naill ai wyneb-yn-wyneb neu’n electronig gan dîm Whatuni a hynny o dros 160 o sefydliadau addysg uwch.

Dangosodd yr arolwg blynyddol fod myfyrwyr ar draws y DU yn hapusach eleni na’r llynedd, a gwelwyd sefydliadau addysg uwch Cymreig yn perfformio’n well na’u cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr ym mhob categori.

Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol IDP Connect sy’n berchen Whatuni: “Mae canlyniadau cryf eleni yn dyst fod myfyrwyr yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd a’r gefnogaeth maent yn eu derbyn, er gwaethaf y gost gynyddol sy’n gysylltiedig ag addysg prifysgol.”

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “ Mae boddhad myfyrwyr gydag ansawdd yr addysgu ac ansawdd bywyd yn Aberystwyth yn gyson uchel, ac rydym yn falch iawn i weld y lefelau ardderchog hyn o fodlonrwydd yn cael eu hadlewyrchu yn yr adolygiadau a’r adborth diweddaraf a gasglwyd ymhlith ein myfyrwyr gan dîm Whatuni. Mae’n llwyddiant yn deillio o ymrwymiad, ymroddiad ac arbenigedd eithriadol ein staff, a byddwn yn parhau i adeiladu ar ein cryfderau er mwyn sicrhau profiad addysgol gorau posib i’n myfyrwyr. Dengys Gwobrau Whatuni eleni nid yn unig fod Aberystwyth yn brifysgol ragorol, ond mai Cymru yw’r lle gorau i astudio yn y DU.”

Meddai Martha Longdon, Aelod Bwrdd Profiad Myfyrwyr Swyddfa Myfyrwyr ac Aelod Bwrdd Cynghori Myfyrwyr Whatuni: “Mae adolygiadau a sylwadau’n hanfodol i wella profiad y myfyrwyr a darparu naratif amhrisiadwy o fywyd prifysgol trwy ganiatàu i fyfyrwyr roi adborth ar faterion sy’n bwysig iddynt. Gan fod myfyrwyr yn cael eu gweld  fwyfwy yn bartneriaid ac yn gyd-wneuthurwyr yn eu haddysg, mae’r dull yma’n eu galluogi nhw i fynegi nid yn unig canmoliaeth a phryderon, ond hefyd i awgrymu atebion creadigol ac arloesol nad sydd o bosib wedi’u hystyried gan sefydliadau.”

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf (ACF 2018), roedd Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac ymhlith y gorau yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr. Enwyd Prifysgol Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu yn y DU gan The Times and Sunday Times Good University Guide yn 2018 a 2019.