Cyn-fyfyriwr yw cyflwynydd newydd Blue Peter

Richie Driss

Richie Driss

26 Ebrill 2019

Mae cyn-fyfyriwr Astudiaethau Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth wedi cael swydd fel cyflwynydd newydd Blue Peter, y rhaglen deledu plant fwyaf hirhoedlog yn y byd.

Bydd Richie Driss, fu’n astudio yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, yn ymuno â Blue Peter ar gyfer ei sioe fyw gyntaf fis nesaf.

Ef fydd cyflwynydd rhif 38 ar Blue Peter a bydd yn cyd-gyflwyno’r rhaglen gyda Lindsey Russell a Henry, ci newydd y rhaglen, o ddydd Iau Mai 16 am 5.30yh ar sianel CBBC.

Mae Richie, sy’n 30, wedi gweithio fel cyflwynwydd a chynhyrchydd i Joe Media, gan ddarlledu cyfweliadau wythnosol gydag enwogion Hollywood ac wynebu heriau megis hyfforddiant comando.

Yn wreiddiol o St Albans, fe weithiodd Richie mewn gorsaf radio lleol ar ôl graddio’n 2010 cyn lansio cyfres ei hun ar GRM Daily. Yna ymunodd â Joe Media yn 2016 cyn sicrhau ei swydd ddelfrydol ar Blue Peter.

Dywedodd Richie: “Nid oes geiriau i ddisgrifio’r teimlad o fod yn gyflwynydd ar Blue Peter. Nes i erioed freuddwydio y bydden i’n cael fy enwi’n gyflwynydd ar raglen deledu plant fwyaf hirhoedlog y byd. Dwi’n methu aros i gychwyn a dilyn ôl troed cyflwynwyr eiconig sydd wedi gwisgo bathodyn adnabyddus Blue Peter dros gyfnod o 60 mlynedd. Dwi am roi cant y cant, beth bynnag fydd gofynion y swydd.”

Meddai Simon Banham, Pennaeth Dros Dro Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth: “Llongyfarchiadau mawr i Richie wrth iddo ymgymryd â’r rôl wych hon yn cyflwyno un o brif raglenni plant y BBC. Fel Adran, ein nod yw darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i lwyddo yn eu gyrfaoedd, ac rydym wrth ein bodd yn gweld Richie yn sicrhau ei swydd ddelfrydol. Edrychwn ymlaen at wylio ei ymddangosiad cyntaf ar 16 Mai a dymunwn bob llwyddiant iddo.”

Dywedodd Matthew Peacock, Golygydd Dros Dro Blue Peter, fod Richie wedi serennu yn ei glyweliadau gan fynd i’r afael â phob gofyniad. “Fe wnaeth Richie argraff fawr arnom yn ystod ei glyweliadau, gan ddangos yr union frwdfrydedd sydd ei angen ar Blue Peter wrth ddod wyneb yn wyneb â pheithon o Byrma a chwrs amddiffyn ninja. Rydym yn sicr y bydd yn boblogaidd tu hwnt gyda chefnogwyr lu Blue Peter.”

Mae Richie eisoes wedi cychwyn ffilmio ar gyfer y rhaglen ac wedi cwblhau ei her gyntaf – sef canu gyda’r Kingdom Choir o flaen cynulleidfa fyw.

Mae Blue Peter yn fyw ar CBBC bob dydd Iau am 5.30yh ac ar gael ar BBC iPlayer.

Line of Duty

Yn gynharach ym mis Ebrill 2019, fe ymddangosodd un arall o gyn-fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yng nghyfres ddrama boblogaidd y BBC Line of Duty.

Roedd Caroline Koziol, a raddiodd gyda gradd gyfun mewn Astudiaeth Ffilm a Theledu / Drama ac Astudiaethau Theatr yn 2016, yn chwarae rhan Mariana oedd yn ddioddefwr masnachu pobl.

Yn awdures yn ogystal ag yn actores, mae Caroline wedi ymddangos hefyd yn Dark Heart, Tracey Breaks the News, a Bad Times at the El Royale.

Meddai Dr Margaret Ames, Uwch-Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o lwyddiannau Caroline. Roedd yn fyfyrwraig hynod ddiwyd oedd bob amser yn barod i ymgymryd ag unrhyw dasg er mwyn sicrhau llwyddiant y tîm ehangach. Gweithiodd yn ddiflino ac mae’n wych ei gweld hi’n gwneud argraff yn y diwydiant actio hynod gystadleuol sydd ohonni. Dymunwn bob llwyddiant iddi i’r dyfodol.”

Mae manylion pellach am gyrsiau’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i’w cael ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/tfts.