Aber ar frig tablau boddhad The Guardian

07 Mehefin 2019

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymysg y mwyaf bodlon yn y DU yn ôl tabl cynghrair prifysgolion diweddaraf The Guardian.

Mae Aberystwyth ar frig y tabl yn y DU am foddhad myfyrwyr gydag adborth yn rhifyn 2020 o dabl cynghrair prifysgolionTheGuardian a gyhoeddwyd heddiw, ddydd Gwener 7 Mehefin 2019.

Mae’r Brifysgol hefyd yn ail am foddhad myfyrwyr gydag addysgu a boddhad myfyrwyr gyda’r cwrs.

Croesawyd y newyddion gan yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Woods: “Unwaith eto, mae tabl cynghrair The Guardian yn dangos bod myfyrwyr Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon yn y DU.”

“Mae’r canlyniadau’n brawf o’n safonau addysgu arbennig ac ymrwymiad rhagorol staff ar draws y sefydliad. Maent hefyd yn adleisio canfyddiadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu lle mae gennym statws Aur, ac fe’m henwyd yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu gan The Times and Sunday Times Good University Guide am ddwy flynedd yn olynol.”

“Wrth reswm, mae tablau cynghrair yn un o sawl ffynhonnell sydd yn helpu darpar fyfyrwyr i ddewis y lle gorau i astudio. Cyn gwneud penderfyniad terfynol, byddem yn annog pob ymgeisydd i ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored neu daith campws er mwyn siarad â myfyrwyr presennol, cyfarfod â’r darlithwyr fydd yn eu dysgu a gweld drostynt eu hunain ein cyfleusterau rhagorol a’n lleoliad ffantastig.”

Mae’r canlyniadau diweddaraf yn adeiladu ar lwyddiant Aberystwyth mewn tablau cynghrair yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ym mis Gorffennaf 2018 Prifysgol Aberystwyth oedd yr orau yng Nghymru ac un o’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y DU yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) gyda boddhad cyffredinol myfyrwyr yn 90%.

Ym mis Medi 2018, enwyd Prifysgol Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu gan The Times and Sunday Times Good University 2019 – y Brifysgol gyntaf i dderbyn y wobr bwysig hon ddwy flynedd yn olynol.

Yn ôl y canllaw roedd Aberystwyth ar y brig yn y DU am ansawdd y dysgu yn rhifyn 2019 o’r Good University Guide, i fyny 5 lle ar 2018.

Ar y pryd, dywedodd Alastair McCall, golygydd The Times and Sunday Times Good University, bod Aberystwyth wedi “wedi cyflawni rhywbeth nad oes unrhyw brifysgol arall yn y DU wedi ei wneud wrth ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu am ddwy flynedd yn olynol trwy wella ar ganlyniadau ardderchog yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol.”

Ychwanegodd, “nid oes gan unrhyw brifysgol yn y DU fyfyrwyr sy’n hapusach gydag ansawdd y dysgu ar hyn o bryd, a hynny am iddynt roi anghenion myfyrwyr yn gyntaf ac yn olaf.”

Mae tablau cynghrair The Guardian wedi eu seilio ar naw ffon fesur: Bodlonrwydd gyda’r cwrs, bodlonrwydd gyda’r addysgu, bodlonrwydd gyda’r adborth, cymhareb myfyrwyr/staff, gwariant y myfyriwr; cyfartaledd tariff mynediad, sgôr ychwanegu gwerth a gyrfa wedi chwe mis.

Ceir rhagor o wybodaeth am The Guardian University Guide 2020 ar arlein.

Cynhelir Diwrnod Agored nesaf Prifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 10 Gorffennaf 2019.