Gwefan newydd i gylchgrawn Y Ddraig

(chwith i’r dde): Aelodau bwrdd golygyddol Y Ddraig 2019: (rhes flaen) Gweno Martin; Nia Ceris Lloyd; Megan Elenid Lewis, a wnaeth lansio’r gyfrol newydd; Non Roberts; Sioned Mair Bowen; (rhes gefn) Elen Haf Roach; Owain Vaughan ac Alaw Mair Jones.

(chwith i’r dde): Aelodau bwrdd golygyddol Y Ddraig 2019: (rhes flaen) Gweno Martin; Nia Ceris Lloyd; Megan Elenid Lewis, a wnaeth lansio’r gyfrol newydd; Non Roberts; Sioned Mair Bowen; (rhes gefn) Elen Haf Roach; Owain Vaughan ac Alaw Mair Jones.

10 Mehefin 2019

Mae gwefan newydd wedi’i lansio ar gyfer cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd gwefan Y Ddraig ei lansio mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Mawrth 28 Mai 2019.

Dyma’r tro cyntaf ers sefydlu’r cylchgrawn yn 2011 iddo gael ei gyhoeddi ar-lein.

Dywedodd Dr Rhianedd Jewell, darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: “Mae’r wefan yn amlygu gwaith arbennig myfyrwyr yr Adran sy’n gyfrifol am olygu’r cylchgrawn, ac yn tynnu sylw at y gymuned ehangach ac amrywiol iawn o bobl – bron bob un â chyswllt agos ag Aberystwyth – sy’n bwydo’r cylchgrawn.”

Lluniwyd y wefan gan Eurig Salisbury, sy’n ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: “Mae mwy o alw nag erioed am ddeunydd Cymraeg ar-lein, ac mae’r wefan hon yn rhoi llwyfan unigryw ar-lein i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau cyfweld, golygu ac ysgrifennu creadigol. Mae hefyd yn rhoi llwyfan i waith creadigol gan fyfyrwyr o adrannau eraill yn y Brifysgol, er enghraifft Twm Ebbsworth yn y rhifyn diweddaraf, yn ogystal ag arloeswyr mewn amrywiaeth o wahanol feysydd y tu hwnt i’r Brifysgol.”

Mae’r wefan yn cynnwys sgyrsiau difyr ac amrywiaeth o weithiau creadigol, yn ogystal ag ôl rifynnau o gylchgrawn Y Ddraig a gwybodaeth am olygyddion y cylchgrawn ac am Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Gwahoddwyd bardd mis Chwefror BBC Radio Cymru a chyn-fyfyrwraig y cwrs Cymraeg Proffesiynol, Megan Elenid Lewis, i lansio’r wefan newydd a’r rhifyn diweddaraf.

Dywedodd Megan, sy’n cael ei chyfweld yn y gyfrol: “Gweithredodd Y Ddraig fel sail i’m gyrfa, gan fod y sgiliau golygu a phrawf-ddarllen wedi bod o fudd enfawr i mi fel gohebydd a chyfieithwraig. Dwi’n meddwl bod lansio’r cylchgrawn eleni, a hynny ar-lein hefyd, yn brawf o’r cyfleoedd chi’n eu cael ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn yr Adran Gymraeg.”

Mae’r rhifyn diweddaraf hefyd yn cynnwys cyfweliad â’r newyddiadurwr a’r gohebydd Siôn Jenkins yn ogystal â cherddi a darnau o ryddiaith gan fyfyrwyr o adrannau ar draws y Brifysgol.

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw’r unig adran yng Nghymru sy’n cyhoeddi cylchgrawn llenyddol o’r fath.

Caiff Y Ddraig ei golygu gan fyfyrwyr ar gwrs arloesol Cymraeg Proffesiynol y Brifysgol.