Darlith Gyhoeddus: 'Subversion as Statecraft: Russia and the United States’

Yr Athro William Wohlforth

Yr Athro William Wohlforth

30 Medi 2019

Yr Athro William Wohlforth fydd yn traddodi Darlith Goffa flynyddol EH Carr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddydd Iau 3 Hydref 2019, yn rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Bydd ei ddarlith, 'Subversion as Statecraft: Russia and the United States’ yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar, sef tanseilio'r berthynas rhwng pwerau mawrion. Bydd yr Athro Wohlfoth yn rhoi sylw penodol i'r berthynas rhwng Rwsia ac Unol Daleithiau America, pwnc y mae ef yn awdurdod byd-enwog arno.

Yr Athro Wohlfoth yw Athro Daniel Webster mewn Llywodraeth yng Ngholeg Dartmouth, New Hampshire, UDA, sy'n un o golegau'r Ivy League. Cyn symud i Dartmouth bu'n dysgu ym mhrifysgolion Princeton a Georgetown. Mae'n un o'r awduron mwyaf amlwg ar Wleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Unol Daleithiau, ac yn ei waith mae'n llwyddo i gysylltu'r byd academaidd a byd llunio polisïau.

Meddai'r Athro Ken Booth, deiliad cyntaf Cadair EH Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: ‘Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod rhywbeth am hanes y gwladwriaethau mwyaf grymus yn ymyrryd ym materion cartref gwledydd llai a gwannach, ond rydyn ni'n gwybod tipyn llai am y tanseilio sy'n digwydd rhwng y gwladwriaethau mwyaf grymus oll. Does dim llawer o bobl sy'n fwy cymwys na Bill Wohlforth i'n tywys ni trwy'r mater hwn.'

Cynhelir darlith William Wohlforth, ‘Subversion as Statecraft’, ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 6pm, nos Iau 3 Hydref 2019.  Ceir mynediad am ddim ac mae croeso cynnes i unrhyw un sy'n dymuno dod.

Y ddarlith nesaf yng Nghyfres y Canmlwyddiant fydd yr Athro Christian Enemark o Brifysgol Southampton ar 17 Hydref 2019.

Hanes yr Adran

Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919, yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle cafodd mwy na 100 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu lladd.

Rhoddodd David Davies (a ddaeth yn Arglwydd Davies o Landinam), dyn busnes, cymwynaswr a gwleidydd o Ganolbarth Cymru, a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret, £20,000 i goffáu’r myfyrwyr a syrthiodd ar faes y gâd er mwyn sefydlu “canolfan ddysg fyd-eang ac ymchwil ar wleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth”.

Aberystwyth oedd cartref y gadair gyntaf yn y byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, ac fe’i henwyd mewn teyrnged i Arlywydd America, Woodrow Wilson - y gŵr sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â chreu Cynghrair y Cenhedloedd dros gynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw’r heddwch.

Mae rhagor o fanylion am y canmlwyddiant ar gael ar wefan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol