Arddangosfa: Stuart Pearson Wright - HALFBOY

‘Half Boy and Half Sister’ gan Stuart Pearson Wright, 2018 (Olew, gwlân dafad, pren sebra, weiren, a chyfryngau cymysg ar liain)

‘Half Boy and Half Sister’ gan Stuart Pearson Wright, 2018 (Olew, gwlân dafad, pren sebra, weiren, a chyfryngau cymysg ar liain)

10 Hydref 2019

Mae HALFBOY - arddangosfa ar daith gan Stuart Pearson Wright - i'w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf o 7 Hydref hyd 22 Tachwedd 2019. 

Ac yntau wedi'i genhedlu yn un o ganolfannau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Ne Llundain yn 1975 drwy ddefnyddio sberm rhoddwr dienw, ni all yr artist gael gwybod pwy yw ei dad ac felly, oherwydd hynny, ni all gael gwybod popeth am ei hunaniaeth ei hunan. Sbardunwyd yr arddangosfa gan ffotos ac atgofion personol, mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon yn ymgais i ail-lunio ei blentyndod er mwyn gwneud rhyw synnwyr o'r ymdeimlad sydd ganddo o fod yn anghyflawn.

Mae llygad manwl Stuart fel portreadwr yn treiddio drwy'r paentiadau, gan roi bywyd i fanion amser a lle. Bydd y gynulleidfa yn symud, o ystadau cyngor y 1980au, i bantiau a'u llond o ddrain, gan fod yn dyst i olygfeydd trasicomig ar blentyndod a glaslencdod yr artist.

Mae'r digrif a'r dwys yn cystadlu am sylw'r gynulleidfa yn y gyfres hunangofiannol hon o baentiadau a lluniau a grëwyd dros bedair blynedd.

Dywedodd Neil Holland, Uwch Guradur yr Ysgol Gelf: "Mae'n teimlo'n rhyfedd braidd hybu arddangosfa drwy ddweud hyn, ond fe fuasai'n well gan Stuart Pearson Wright beidio â phaentio'r darnau a wnaeth i HALFBOY: fe fuasai'n well ganddo fod wedi cael cariad tad - fod wedi'i fagu gan adnabod teulu ei dad, ei dad-cu a'i fam-gu, ei ewythrod, ei fodrybedd a'i gefndryd.  Mae'r gwagle poenus hwn yn ei fywyd a'r ymdrech a wnaed ganddo i leddfu'r tristwch dwfn y mae'n ei achosi iddo yn cael eu gwireddu yn y paentiadau a'r lluniau hyn, sy'n boenus o drist a doniol, yn annifyr o hardd."

Dywedodd Stuart Pearson Wright: "Yn 2007 fe ddes i â'm harddangosfa Most People are Other People i Oriel yr Ysgol Gelf yn Aberystwyth. Fe fydd yn wych dychwelyd yno eleni gyda fy ngwaith diweddaraf, HALFBOY.”

Hyfforddodd Stuart Pearson Wright yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade yn Llundain, lle yr enillodd y Wobr Deithio yng Ngwobrau Portreadau BP (1998) a ddyfarnwyd gan yr Oriel Portreadau Genedlaethol. Cafodd yr arddangosfa honno yn yr Oriel glod mawr gan y beirniaid, ac fe gafodd Wright ei alw'n 'Hogarth i'n Hoes ni' gan Godfrey Barker o'r Evening Standard.

Yn 2000, digwyddodd iddo gwrdd â'r actor John Hurt yn Old Compton Street ac o ganlyniad fe baentiwyd portread bychan ar dderw a brynwyd wedyn gan yr Oriel Portreadau Genedlaethol, ynghyd â phortread o'r dansiwr bale Adam Cooper. Eleni fe enillodd Wobr Portread BP am Gallus gallus with Still Life and Presidents ac fe enillodd gomisiwn i baentio J. K. Rowling ar gyfer casgliad yr Oriel.

Mae arddangosfeydd diweddar o waith Wright wedi'u cynnal yn Riflemaker, Llundain, yn 2010, 2012 a 2013, ac mae ei waith i'w weld mewn casgliadau cyhoeddus gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Casgliad Celf y Llywodraeth, Amgueddfa Ashmole, Amgueddfa Fitzwilliam a llawer mwy.

Bydd yr arddangosfa HALFBOY i'w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth o 7 Hydref hyd 22 Tachwedd 2019.  Mae'r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 10 y bore tan 5 y prynhawn.  Croeso i bawb - mynediad am ddim.