Digwyddiad ‘rhwydweithio chwim’ i ddod o hyd i’r partner ymchwil perffaith

07 Hydref 2019

Cynhaliwyd digwyddiad 'rhwydweithio chwim' yn ddiweddar rhwng academyddion o Brifysgol Aberystwyth a staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n chwilio am eu partner ymchwil perffaith.

Partneriaeth y Brifysgol â NatWest yn rhoi hwb i fentrwyr busnes

08 Hydref 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth ac AberArloesi yn ymuno â NatWest i helpu darpar fentrwyr lleol drwy lansio fersiwn atodol o raglen 'Pre-Accelerator' y banc hwnnw.

Arddangosfa: Stuart Pearson Wright - HALFBOY

10 Hydref 2019

Mae HALFBOY - arddangosfa ar daith gan Stuart Pearson Wright - yn agor yn y Oriel yr Ysgol Gelf.

Cyflwyno ysgoloriaethau Peter Hancock

11 Hydref 2019

Cyhoeddwyd enillwyr diweddaraf ysgoloriaeth sy’n arddel enw cyn-fyfyriwr a dderbyniodd gefnogaeth ariannol gan Brifysgol Aberystwyth dros hanner canrif yn ôl.

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr

11 Hydref 2019

Bu staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol yn brasgamu drwy’r elfennau ar hyd promenâd Aberystwyth heddiw, ddydd Gwener 11 Hydref 2019, fel rhan o ddathliadau blynyddol Diwrnod y Sylfaenwyr y Brifysgol.

Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaeth ar Fil Deddf yr Undeb gan Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad

15 Hydref 2019

Gyda Chalan Gaeaf ac ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn prysur agosau, ac yn eu sgil y potential am argyfwng cyfansoddiadol rhwng cenhedloedd y DU, mi fydd cyfansoddiad newydd arfaethedig ar gyfer y DU yn cael ei drafod ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Iau 24 Hydref 2019.

'Drone Violence as Wild Justice: Administrative Executions on the Terror Frontier’

16 Hydref 2019

Y defnydd dadleuol o dronau milwrol, mater sydd wedi dod i amlygrwydd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol ers dechrau’r rhyfel ar derfysgaeth, fydd yn cael sylw yn narlith ddiweddaraf Cyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Darlith Gyhoeddus ar waddol Chwiorydd Davies Gregynog

22 Hydref 2019

Chwiorydd Davies Gregynog a’u cyfraniad rhyfeddol i’r celfyddydau ac addysg yng Nghymru fydd testun darlith gyhoeddus a draddodir gan Dr Jacqueline Jeynes yn yr Hen Goleg ddydd Llun, 4 Tachwedd 2019.

Arddangosfeydd tecstilau gan gyn-wrthryfelwyr yn agor yn Colombia

22 Hydref 2019

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi teithio i Colombia ar gyfer agor cyfres o arddangosfeydd lleol o decstilau a wnaed gan gyn-wrthryfelwyr.

Prifysgol Aberystwyth yn addo lleihau ei defnydd o blastig untro

22 Hydref 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi addo lleihau ei defnydd o blastig untro yn barhaus.

Arbenigwr ym maes llenyddiaeth Ffrangeg yr oesoedd canol i draddodi Darlith Goffa’r Athro David Trotter

23 Hydref 2019

Yr Athro Marianne Ailes o Brifysgol Bryste fydd yn traddodi pedwaredd Darlith Goffa Flynyddol yr Athro David Trotter ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019.

Arbenigwr ar bysgodfeydd yn rhybuddio am orbysgota tiwna yng Nghefnfor India

24 Hydref 2019

Mae biolegydd morol o Brifysgol Aberystwyth yn galw am newid polisi ym maes pysgodfeydd rhyngwladol er mwyn amddiffyn stociau o diwna melyn yng Nghefnfor India.

Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: agor rhan gyntaf y buddosddiad £40.5m

25 Hydref 2019

Agorwyd rhan gyntaf Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Jeremy Miles heddiw, ddydd Gwener 25 Hydref 2019.

'Curious Kids': sut mae crychdonnau’n ffurfio a pham y maen nhw’n ymledu ar draws y dŵr?

28 Hydref 2019

Wrth ysgrifennu yn ‘The Conversation’, mae’r Athro Simon Cox o’r Adran Mathemateg yn egluro pam y mae’r arbrawf syml o daflu carreg i ddŵr mewn gwirionedd yn datgelu rhai o reolau sylfaenol ffiseg.

Enillydd Gwobr Heddwch Nobel i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz

29 Hydref 2019

‘International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)’ yw teitl Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz eleni, ac fe'i cynhelir ar ddydd Iau, 31 Hydref.

Gwyddonwyr yn harneisio technoleg i helpu cleifion strôc

29 Hydref 2019

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu ap symudol i wella ansawdd bywyd cleifion strôc.

Telesgopau solar y Brifysgol yn dangos taith brin y blaned Mercher ar draws yr Haul

30 Hydref 2019

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad cyhoeddus i nodi taith anghyffredin y blaned Mercher ar draws wyneb yr Haul ddydd Llun 11 Tachwedd 2019.

A yw dynion wir yn fwy doniol na menywod?

30 Hydref 2019

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Gogledd Carolina wedi bod yn profi’r canfyddiad cyffredin bod dynion yn fwy doniol na menywod.

Darlith Pantycelyn: ‘Heriwr anhepgor, Alwyn D. Rees (1911-1974): Brwydrau iaith a Phrifysgol hanner canrif yn ôl’

31 Hydref 2019

Yr academydd a’r ymgyrchydd iaith Alwyn D Rees fydd canolbwynt sylw Darlith Pantycelyn a gynhelir nos Fercher 6 Tachwedd 2019 yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth.