Telesgopau solar y Brifysgol yn dangos taith brin y blaned Mercher ar draws yr Haul

Delwedd liwgar o'r blaned Mercher a grewyd o luniau a dynwyd yn ystod taith Messenger: Llun NASA/Johns Hopkins University Applied Physics Laboratory/Carnegie Institution of Washington

Delwedd liwgar o'r blaned Mercher a grewyd o luniau a dynwyd yn ystod taith Messenger: Llun NASA/Johns Hopkins University Applied Physics Laboratory/Carnegie Institution of Washington

30 Hydref 2019

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad cyhoeddus i nodi taith anghyffredin y blaned Mercher ar draws wyneb yr Haul ddydd Llun 11 Tachwedd 2019.

Rhyw 13 o weithiau’n unig y mae aliniad o’r fath yn digwydd o fewn canrif, gyda’r un nesaf yn 2032.

Gan mai Mercher yw'r blaned leiaf, dim ond trwy ddefnyddio telesgopau arbennig sydd â’r hidlwyr solar cywir y mae modd gweld y croesiad o'r Ddaear.

Bydd staff a myfyrwyr ôl-raddedig o'r Adran Ffiseg yn gosod pedwar telesgop gyda hidlydd alffa solar a hydrogen o flaen adeilad yr Hen Goleg yn Aberystwyth.

Bydd y telesgopau yn caniatáu i bobl nid yn unig weld taith araf Mercher ar draws y ddisg solar ond hefyd i weld awyrgylch yr Haul - cyhyd â bod y tywydd yn glir.

Os bydd y tywydd yn gymylog, caiff sgriniau eu gosod y tu mewn i’r Hen Goleg yn dangos lluniau byw o wledydd eraill rhwng 12.30yp a 4.30yp ar 11 Tachwedd 2019.

Dywedodd Gabriel Muro, sy’n ymchwilydd solar a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Yn y bôn, eclipsau bach yw’r teithiau planedol hyn ac maen nhw’n galluogi gwyddonwyr i wneud darganfyddiadau newydd am ein system solar ni ac am systemau solar eraill cyfagos. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i fesur pellteroedd a chyflymder goleuni yn gywir, yn ogystal â phrofi damcaniaethau sy'n bodoli eisoes fel theori perthnasedd gyffredinol Einstein. Yn ogystal â’r mesuriadau pwysig yma, mae’n werth nodi hefyd bod y rhan fwyaf o'r 4,000+ o blanedau sy’n bodoli mewn systemau solar eraill wedi'u canfod o ganlyniad i deithiau planedol.”

“Trwy drefnu’r digwyddiad cyhoeddus hwn, rydyn ni am roi cyfle i fyfyrwyr, disgyblion ysgol ac aelodau eraill o’r gymuned leol i wylio’r digwyddiad solar prin hwn mewn modd diogel, gan ddefnyddio’r offer cywir. Hoffem bwysleisio na ddylai pobl fyth edrych yn uniongyrchol ar yr Haul heb yr offer priodol, gan y gallai hyn beri niwed difrifol i’w golwg.”  

Hefyd yn ystod y digwyddiad yn yr Hen Goleg ar 11 Tachwedd 2019, bydd staff o’r Adran Ffiseg yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau byr yn ymwneud â’r blaned Mercher, yr Haul a chroesiadau planedol. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Amserlen dydd Llun 11 Tachwedd 2019

12:30 - Telesgopau wedi'u gosod ar ochr glan môr yr Hen Goleg

14:00 - Cyflwyniad poster ar Ymchwil Astroffiseg Ôl-raddedig

15:00 - Cyfres o sgyrsiau byr yn trafod:

  • Pwysigrwydd croesiadau planedol hanesyddol
  • Canfod planed y tu hwnt i’r system solar
  • Nodweddion y blaned Mercher
  • BepiColombo: Rôl Aberystwyth yn y daith i’r blaned Mercher
  • Teithiau enfawr: gwyddoniaeth clip llwyr yr haul 2019
  • Gwyntoedd solar ar y blaned Mercher, y Ddaear, a thu hwnt

16:30 – Machlud yr haul a diwedd y digwyddiad.