Wedi Brexit – beth nesaf i Gymru? Prif Weinidog Cymru i draddodi darlith flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeitha

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC

13 Chwefror 2020

Wrth i Lywodraeth y DU ddechrau ar y trafodaethau ynglyn â’i pherthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, mi fydd Prif Weinidog Cymru yn trafod goblygiadau hyn i Gymru mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Iau 27 Chwefror 2020.

Fe fydd Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC yn siarad yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru ar gampws Penglais y Brifysgol lle bydd yn traddodi darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Mae tocynnau’r ddarlith Wedi Brexit- beth nesaf i Gymru? After Brexit – what next for Wales? yn rhad ac am ddim ac ar gael ar-lein o tocyn.cymru.

Mae’r ddarlith yn dechrau am 6:30yh gyda derbyniad o flaen llaw o 6:00yh. Croeso cynnes i bawb.

Dywedodd Yr Athro Michael Woods, Cyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth Cymru: “Mae Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth Cymru wedi ei thraddodi gan Brif Weinidogion Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd ac rydym yn falch o groesawu Mark Drakeford y flwyddyn hon mewn cyfnod tyngedfennol yn hanes ein cenedl.

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Ei nod yw datblygu dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a dadleuon a datblygiad polisi yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar enw da Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr sy’n ymddiddori yng Nghymru.

Yn ogystal, mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o WISERD, gan ddarparu cysylltiadau รข gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe.

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC
Mae Mark Drakeford yn gyn Athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel swyddog prawf, gweithiwr cyfiawnder ieuenctid ac arweinydd prosiect gyda Barnados yng Nghaerdydd.

Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad ar gyfer Gorllewin Caerdydd yn 2011. Cyn hynny bu’n gynghorydd Llafur ar Gyngor Sir De Morgannwg yn ystod yr 1980au a’r 1990au gan arbenigo mewn problemau addysgiadol gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.

Rhwng 2000 a 2010 bu’n gweithio fel ymgynghorydd arbennig ym maes polisi iechyd a chymdeithasol i Gabinet Llywodraeth Cymru, a gwasanaethodd fel pennaeth swyddfa wleidyddol y Prif Weinidog.

O fis Gorffennaf 2011 tan fis Mawrth 2013 gwasanaethodd fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad a Phwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru ar gyfer cronfeydd Ewropeaidd.

Ym mis Mawrth 2013 cafodd ei benodi’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac yna ym mis Mai 2016, fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cyllid a Llywodraeth Leol.

Cafodd ei benodi’n Brif Weinidog Cymru ym mis Rhagfyr 2018 a daeth yn aelod o’r Cyfrin Gyngor ym mis Chwefror 2019.