Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill Cwpan Agronomeg NIAB am y trydydd tro

Chwith i’r dde: Enillwyr Cwpan Agronomeg NIAB 2019 Yiannos Constantinou, Danika Lustle, Courtney Ifill a Summer de Slegte gyda’r darlithydd Dr Irene Griffiths (canol).

Chwith i’r dde: Enillwyr Cwpan Agronomeg NIAB 2019 Yiannos Constantinou, Danika Lustle, Courtney Ifill a Summer de Slegte gyda’r darlithydd Dr Irene Griffiths (canol).

05 Mawrth 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill un o brif gystadlaethau’r DU ar gyfer myfyrwyr gwyddor amaethyddiaeth a chnydau am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Sefydlwyd Cwpan Agronomeg Fawreddog NIAB (Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol) yn 2012 â’r nod o brofi sgiliau agronomeg, rheoli fferm a sgiliau gwneud penderfyniadau amaethyddol timau.

Ar gyfer y gystadleuaeth bu timau yn hau cnwd o wenith gaeaf yn ystod hydref 2018 yn safle Callow NIAB yn Swydd Henffordd, a’i gynaeafu yn Awst 2019.

Dianka Castle, Courtney Ifill, Summer De Slegte ac Yiannos Constantinou yw’r tîm o fyfyrwyr Amaeth BSc diweddaraf i gynrychioli Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth a chipio’r gwpan.

Mae eu buddugoliaeth yn y gystadleuaeth, sydd yn agored i fyfyrwyr o Brifysgolion a Cholegau ar draws y Deyrnas Unedig, yn golygu mai Prifysgol Aberystwyth yw’r sefydliad cyntaf i ennill y gwpan dair gwaith.

Dywedodd Dr Irene Griffiths o IBERS: “Rwyf wrth fy modd fod tîm IBERS wedi ennill y gwpan fawreddog hon am y drydedd flwyddyn yn olynol sydd yn tanlinellu’r arbenigedd tyfu grawn sydd yma yn Aberystwyth.”

“Rhoddwyd briff i’r timau sef i wneud penderfyniadau mewnbwn ar gyfer tyfu’ gwenith gaeaf KWS Siskin yn effeithiol ac yn gynhyrchiol. Roedd risg o rwd melyn ar y safle yn Henffordd a drwy roi Ignite ar adeg T1 eu gobaith oedd lleihau’r risg o’r clefyd.”

Dywedodd Capten y Tîm, Danika Castle: “Mae ennill Cwpan Agronomeg NIAB yn brofiad anhygoel a hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau am eu hymroddiad i wneud hyn yn bosib, ac i Irene am ei chefnogaeth. Mae’r gystadleuaeth wedi ein galluogi i roi’r wybodaeth agronomeg a ddysgwyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol go iawn ac rydym wedi dysgu llawer am gynhyrchu grawnfwyd diolch i ddarlithoedd Dr Irene Griffiths.”

Roedd hi’n ofynnol i bob tîm ddylunio cynllun agronomeg yn seiliedig ar eu hasesiad cychwynnol o’r cnwd cyn defnyddio unrhyw ffwngleiddiadau neu nitrogen.

Ychwanegodd Danika: “Mae gan y gwenith gaeaf Siskin risg gordyfu a chwympo o 6 allan o 9, felly ychwanegom gyfradd lawn o Chlormequat yng ngham T1. Roedd lefel uchel o nitrogen eisoes yn y pridd, felly ni ychwanegom unrhyw nitrogen ond fe ychwanegom reolwr tyfiant planhigion i atal y cnwd rhag cwympo.”

“Roedd ychydig o Septoria eisoes yn bresennol yn y cnwd a drwy ychwanegu Bravo ar adeg T0 a T1 y gobaith oedd arafu lledaeniad y ffwng. Oherwydd y gwanwyn sych, fe ddefnyddiom Ignite fel ffwngladdwr T2 yn hytrach na ffwngleiddiadau SDHI.”

“Ychwanegom Folicur i geisio helpu atalFusarium, ac mae Folicut yn ffwngladdwr cryf yn erbyn malltod y glust yn T3.”

Y canlyniad terfynol oedd i dîm IBERS gynhyrchu 13t tunnell yr hectar o wenith, gan guro triniaeth safonol NIAB a gynhyrchodd 12.66 tunnell yr hectar.

Dywedodd cydlynydd treialon cenedlaethol NIAB TAG, Ian Midgley: “Enillodd Prifysgol Aberystwyth yn 2017 a 2018, ac yn sicr mae’n dipyn o gamp i ennill am y trydydd tro, gan guro cystadleuaeth chwyrn o rai o golegau amaethyddol gorau’r Deyrnas Unedig.”