Ein Planed Amrywiol: Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Aberystwyth

09 Mawrth 2020

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu dros 1600 o ddisgyblion o ysgolion Ceredigion, Powys a Gwynedd ddydd Mawrth, ddydd Mercher a dydd Iau’r wythnos hon (10-12 Mawrth) ar gyfer ffair wyddoniaeth.

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan yr Adran Farchnata a Denu Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth fel rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2020 (6-15 Mawrth).

Cynhelir y ffair yn y Gawell Chwaraeon ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth, a bydd yn agored i ysgolion o 9:30 y bore tan 3:00 y prynhawn am y tri diwrnod.

Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth yw dathliad mwyaf Cymru a’r Deyrnas Unedig o bob peth sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Teleri Lewis, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol: "Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at sut y mae gwaith y Brifysgol a llawer of asiantaethau lleol ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn berthnasol i fywyd pob dydd ac yn cynorthwyo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr gyda gweithgareddau hwyliog ac ymarferol.

“Addysg i bawb yw amcan y Brifysgol. Rydym am i bobl, waeth beth yw eu cefndir neu oedran, gael cyfle i dderbyn addysg uwch, ac yn aml dod â phobl i’r Campws ar gyfer digwyddiad o'r fath yw'r cam cyntaf yn y daith addysg.”

“Thema Wythnos Gwyddoniaeth 2020 yw ‘Ein Planed Amrywiol’. Mae'r ffair wyddoniaeth yn gyfle i ddangos y gwaith gwyddonol rhagorol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn ehangu gwybodaeth o wyddoniaeth ymhlith plant ysgol a dangos iddynt pa mor bwysig yw yn ein bywydau ni i gyd.”

Bydd y rhai sy'n mynychu'r ŵyl yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o arddangosiadau a gweithgareddau.  

Bydd yr Ŵyl yn cynnwys stondinau rhyngweithiol o adrannau Mathemateg a Ffiseg, Cyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Bioleg a Gwyddorau Gwledig y Brifysgol.