Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu adeilad arall i’r frwydr yn erbyn Coronafeirws

27 Ebrill 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu adeilad fel canolfan sgrinio gweithwyr allweddol a gofod meddygol at ddefnydd meddygon teulu lleol, fel rhan o ymdrechion parhaus yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Mae’r safle, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth, wedi ei glustnodi fel uned profi gymunedol ac eisoes wedi sgrinio dros 115 o weithwyr allweddol sy’n byw yng Ngheredigion, Powys a De Gwynedd. Mae’r un adeilad hefyd wedi ei ddynodi fel ardal glinigol i’w defnyddio, os oes angen, gan feddygon teulu neu’r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan o oriau arferol ar gyfer cleifion sydd wedi, neu sydd wedi eu hamau o gael, eu heintio gan Covid-19.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Brifysgol wedi sicrhau bod ystod eang o’i chyfleusterau a’i gwasanaethau ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ymysg yr hyn mae’r Brifysgol yn ei gyfrannu’n lleol at y frwydr yn erbyn y feirws, mae llety i staff y gwasanaeth iechyd a gweithwyr y gwasanaethau brys, ym mhreswylfeydd y Brifysgol ar gampws Penglais. Yn ogystal, mae timau o fewn y Brifysgol wedi cyflenwi a chynhyrchu offer diogelwch personol ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen a chartrefi gofal.

Meddai Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Dyma ran o gyfres o gyfraniadau gan y Brifysgol i daclo’r feirws o fewn ein cymuned, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn falch o allu cyfrannu ein hadeiladau a’n hadnoddau i’r ymdrechion hyn ynghyd â  phartneriaid eraill. Dyma’r amser i bawb dynnu ynghyd i wneud popeth y gallwn ni.”

Ychwanegodd Peter Skitt, Comisiynydd a Chyfarwyddwr Sirol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda:

“Hoffem ddiolch i Brifysgol Aberystwyth am ryddhau’r adeilad at ein defnydd fel ein bod yn gallu cefnogi mynediad cyflym at sgrinio o fewn yr ardal leol ac am ein cynorthwyo i gefnogi staff a gweithwyr allweddol eraill er mwyn cynnal lefelau staffio.  Mae’r Brifysgol wedi bod o gymorth mawr iawn o ran rhoi mynediad i’r safle a chaniatáu’r addasiadau angenrheidiol. Heb eu cymorth, ni allwn fod wedi gwneud hyn.”