Cynhadledd Prifysgol Aberystwyth i ysgogi dysgu a bywiogi'r addysgu

28 Awst 2020

Cynorthwyo myfyrwyr i deimlo cyswllt personol wrth i ddysgu o bellter cymdeithasol ddod yn beth arferol; defnyddio'r 'pwynt mwyaf dryslyd' i ystyried cynnydd a dirnadaeth myfyrwyr; ac a yw ansawdd cwsg, presenoldeb a materion iechyd meddwl yn rhagfynegi perfformiad academaidd; mae'r materion hyn i gyd ymhlith y pynciau a drafodir eleni yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.

Nawr ar ei hwythfed flwyddyn, cynhelir y digwyddiad dros dridiau o 7 - 9 Medi 2020, ac eleni fe fydd yn digwydd ar-lein.

Mae'r gynhadledd flynyddol yn gyfle i rannu rhai o'r dyfeisiadau ac arferion da diweddaraf mewn dysgu ac addysgu.  Thema'r gynhadledd eleni yw 'Gwella'r Maes Llafur: Ysgogi Dysgu a Bywiogi'r Addysgu!' 

Mae rhaglen eang ac amrywiol y gynhadledd yn seiliedig ar bum ffrwd: Troi at Ddysgu Ar-lein, Creu Cymuned Ddysgu, Datblygu Lles yn y Cwricwlwm, Ymgorffori Dysgu Gweithredol, a Gweithio gyda Myfyrwyr fel Partneriaid.

Traddodir yr araith gyweirnod gan yr Athro Ale Armellini o Brifysgol Northampton, a fydd yn siarad am ymgorffori dysgu cyfunol yn eu holl gyrsiau. Ar ben hyn, bydd Dr Kate Lister o'r Brifysgol Agored yn trafod ymgorffori lles i'r cwricwlwm, ac yn cynnig sesiynau galw heibio lle bydd staff yn gallu gofyn cwestiynau penodol am y strategaeth lles. Bydd Gillian Fielding o Blackboard yn ymuno â'r gynhadledd i roi enghreifftiau o'r offer y gellir eu defnyddio i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.

Yn ogystal â'r siaradwyr allanol, ceir dewis da o gyflwyniadau a thrafodaethau gan gydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol, yn cynnig enghreifftiau o arfer da, awgrymiadau ymarferol ac astudiaethau achos.

Meddai Dr James Woolley o'r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu sy'n trefnu'r digwyddiad: "Rydym yn hynod falch o'r rhaglen eang ac amrywiol sydd gennym ar gyfer y gynhadledd flynyddol Dysgu ac Addysgu am eleni, sy'n dangos ystod gyflawn yr arferion addysgu nodedig ac arloesol sy'n digwydd ymhob rhan o Brifysgol Aberystwyth. Bydd y cynadleddwyr yn elwa o gyflwyniadau a seilir ar sefyllfaoedd addysgu ymarferol y gellir eu hymgorffori i wella'u haddysgu, yn ogystal â chael rhai atebion ymarferol i sefyllfa addysgu ar-lein ac addysgu wyneb yn wyneb o bellter cymdeithasol. Bydd nifer o'r cyflwynwyr yn rhannu eu dulliau addysgu blaengar ac atebion technolegol yn dilyn y symud i ddysgu ar-lein ym mis Mawrth.

"Mae'r gynhadledd yn uchafbwynt blynyddol i'r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu. Mae eleni yn nodi gwahaniaeth gan ein bod yn darparu'r gynhadledd ar-lein, ond rydym wedi sicrhau y bydd gan gydweithwyr gyfle i rannu eu profiadau a'u harferion gyda'i gilydd, ac mae mannau cymdeithasu wedi'u creu ochr yn ochr â'r paneli. Diolch i'n siaradwyr ac i'n gwesteion allanol am gyfrannu i'r gynhadledd eleni. Ein gobaith yw y bydd cynadleddwyr yn cael y gynhadledd yn ddefnyddiol ar gyfer y cyd-destun addysgu fel y mae heddiw ac edrychwn ymlaen at eich gweld wyneb yn wyneb yng nghynhadledd y flwyddyn nesaf."

Yn ystod y gynhadledd, bydd Enillydd y Wobr Cwrs Nodedig a'r Wobr Canmoliaeth Uchel yn cael eu cyflwyno.

Mewn cystadleuaeth glos iawn, dyfarnwyd gwobr y Cwrs Nodedig i Dr Lara Kipp o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am y modiwl 'Principles of Scenography'. Cafodd y modiwl hwn ei ganmol gan y panel am gynllun yr asesiad a'r gefnogaeth a roddwyd, am ddeunydd dysgu clir a threfnus, am ddefnydd gwreiddiol o hysbysiadau, ac am gynnig amryw ddulliau i'r myfyrwyr ymgymryd â'u gweithgareddau dysgu.

Cafodd Dr Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Ganmoliaeth Uchel am ei modiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’. Dywedodd y panel bod y modiwl yn darparu adnoddau rhagorol ac asesiadau ar sail sefyllfaoedd posibl i fyfyrwyr a oedd yn gymorth mawr iddynt wrth ddysgu ac ymgymryd â'r gwaith.

Nod y Wobr Cwrs Nodedig yw cydnabod yr arferion dysgu ac addysgu gorau oll trwy roi cyfle i aelodau o staff rannu eu gwaith â chyd-weithwyr, gwella eu modiwlau presennol yn Blackboard, a chael adborth ar eu modiwlau. Mae'r modiwlau'n cael eu hasesu mewn pedwar maes: dyluniad y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy'n seiliedig ar hunanasesu, yn rhoi'r cyfle i staff fyfyrio ar eu cwrs a gwella agweddau ar eu modiwl cyn y bydd panel yn asesu pob cais ar sail y gyfeireb.

Mae rhaglen lawn Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2020 i'w chael ar-lein -  https://tinyurl.com/y6buapxu.  Cynhelir yr achlysur trwy Microsoft Teams ac mae'n agored i holl staff Prifysgol Aberystwyth, sy'n cael ymuno am gymaint neu chyn lleied o'r gynhadledd ag y dymunant. Nid yw'n rhy hwyr i gofrestru - gellir archebu lle ar-lein -  https://aber.onlinesurveys.ac.uk/ltc2020 

Dyfarnwyd Aur i Brifysgol Aberystwyth yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr ym mis Mehefin 2018. Cafodd ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times / The Sunday Times 2018 a 2019, y brifysgol gyntaf i ennill hynny ddwy flynedd yn olynol, a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn 2020.

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020, daeth Aberystwyth ar y brig yng Nghymru, ac o'r prifysgolion yng Nghanllaw Prifysgolion Da'r Times a'r Sunday Times 2020, mae hi'n un o'r 5 uchaf o blith prifysgolion Prydain am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.