Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Mae Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sy'n gyfrifol am drefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o'r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i'r dulliau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu defnyddio wrth ddysgu.
Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, cyflwyniadau a siaradwyr gwadd.
Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y Brifysgol.
Cynhelir y gynhadledd rhwng dydd Mawrth 8 Gorffennaf a dydd Iau 10 Gorffennaf.
Bydd dydd Mawrth 8 Gorffennaf ar-lein, gyda sesiynau wyneb yn wyneb ddydd Mercher 9 a dydd Iau 10 Gorffennaf.
Mae ein rhaglen lawn ar gael ar ein tudalennau gwe a gallwch archebu eich lle ar-lein.
Mae gennym nifer o siaradwyr allanol yn y gynhadledd eleni.
Prif Siaradwr:
Bydd Dr Neil Currant yn rhoi’r prif gyflwyniad ar Asesu Tosturiol. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy dosbarth meistr a bydd cydweithwyr yn gallu cymhwyso’r egwyddorion hyn i’w sefyllfaoedd eu hunain. Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.
Siaradwyr Gwadd:
Mae gennym dri siaradwr allanol arall wedi’u trefnu. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod:
- Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks
- Higher Education Partners (HEP)
- Yr Athro John Traxler
Yn ogystal â hynny, mae gennym sesiynau gwych gan gydweithwyr sy’n dangos yr arferion addysgu arloesol sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol
- Dysgu ar-lein ac adeiladu cymuned
- Panel o fyfyrwyr yn trafod eu profiadau dysgu
- Gwaith allanol gydag ysgolion
- Dylunio cwricwlwm cynhwysol
- Diweddariad grŵp Cymru Gyfan
- Gweithgareddau addysgu arloesol a diddorol
- Dathliad TUAAU a AUMA
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi’r blaenoriaethau a’r mentrau dysgu ac addysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein blog.