Prifardd yn cael ei phenodi’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth

Mererid Hopwood

Mererid Hopwood

13 Hydref 2020

Mae’r Prifardd Mererid Hopwood wedi ei phenodi’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yr Athro Hopwood yn cychwyn yn ei rôl newydd ddechrau mis Ionawr 2021.

Wedi graddio mewn Sbaeneg ac Almaeneg  ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain. Ers hynny bu’n darlithio yn adrannau’r Gymraeg ac Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe cyn dod yn Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor. Hi oedd y bardd benywaidd cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn 2001. Daeth rhagor o lwyddiant i’w rhan yn 2003 pan gipiodd hi’r Goron, ac yna yn 2008 y Fedal Ryddiaith.

Meddai’r Athro Hopwood:

“Y Brifysgol yn Aberystwyth yw’r un a’m croesawodd yn fyfyrwraig yn agos at ddeugain mlynedd yn ôl, ac yn awr rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i’r Coleg ger y Lli a chael bod yn rhan o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

“Bydd hi’n fraint aruthrol gallu cydweithio yno gyda’r nod o sicrhau bod y myfyrwyr, y staff a’r ddisgyblaeth yn ffynnu yn Aberystwyth a thu hwnt.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae’n destun balchder mawr i ni fel prifysgol, ac i mi yn bersonol, ein bod wedi penodi academydd mor ddawnus ac mor uchel ei pharch i’r rôl hynod o bwysig hon. Mae’r Athro Hopwood yn dod â chyfoeth o brofiad a doniau arbennig a fydd o fudd mawr i’n myfyrwyr a’r adran.

“Mae ei phenodiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad ac uchelgais ar gyfer Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a phwysigrwydd yr adran i’n sefydliad. Mae’n gam pwysig ymlaen wrth i ni barhau i ddatblygu’r adran i’r dyfodol.

“Mae’r Athro Hopwood yn ymuno â ni ar adeg gyffrous iawn i’r Gymraeg yma yn Aberystwyth - wedi ein buddsoddiad sylweddol i ail-agor Neuadd Pantycelyn eleni ynghyd â’n gwaith i ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn strategol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae meithrin cenedlaethau newydd o academyddion a phobl broffesiynol Cymraeg eu hiaith mewn ystod eang o feysydd yn hollol ganolog i genhadaeth Prifysgol Aberystwyth.”

Ychwanegodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Cathryn Charnell-White:

“Pleser o’r mwyaf yw cael croesawu Yr Athro Mererid Hopwood i’n Hadran ni. Yma yn Aberystwyth rydym wastad wedi prisio ysgolheictod ac ymarfer llenyddol, felly, mae apwyntio Ysgolhaig a Llenor i’r Gadair hon yn ddathliad dwbl. Bydd Mererid yn ymuno â thîm blaengar ac ymroddgar, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gael cydweithio’n agos â hi er mwyn gwireddu gweledigaeth yfory o’n Hadran ni.”

Mae’r Athro Hopwood yn adnabyddus am ei chyfraniad aruthrol i iaith a diwylliant y Gymraeg. Enillodd ei chasgliad o farddoniaeth, Nes Draw, wobr Llyfr y Flwyddyn yn yr Adran Farddoniaeth 2016, a chipiodd ei nofel gyntaf i blant wobr Tir na n-Og, 2018. Mae hi’n gweithio’n ddiflino i hybu apêl eang y gynghanedd, yn enwedig ymysg merched a phobl ifanc, ac mae hi’n gyn Fardd Plant Cymru. Mae ei chyfieithiadau llenyddol i’r Gymraeg yn cynnwys Tŷ Bernarda Alba gan Lorca a’r Cylch Sialc gan Brecht i Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae’r Athro Hopwood wedi cyhoeddi ymchwil ym meysydd Addysg a Llenyddiaeth gan gynnwys astudiaethau ar le’r Gymraeg yn y ‘Cwricwlwm i Gymru’ ac ar waith Waldo Williams. Bydd ei hystyriaeth o’r gynghanedd fel ‘iaith ryfeddol’ yn ymddangos fis nesaf yng nghyfrol Y Gynghanedd Heddiw (Cyhoeddiadau Barddas). Eleni enillodd Wobr Emyr Humphreys PEN Cymru am yr ysgrif fwyaf beiddgar ac arloesol am Gymru, a hynny am ei herthygl yn O’r Pedwar Gwynt sy’n trafod agweddau ar y Gymraeg a dwyieithrwydd.