Gwobr ‘seren y dyfodol’ i academydd o Aberystwyth am ei brosiect bwyd cynaliadwy

Dr Andrew Lloyd

Dr Andrew Lloyd

15 Hydref 2020

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn un o ‘ser y dyfodol’ ym maes bwyd cynaliadwy yn ôl UKRI, prif gorff cyllido ymchwil ac arloesedd y DU.

Dr Andrew Lloyd o Athrofa’r Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yw un o enillwyr diweddaraf Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI.

Sefydlwyd y wobr er mwyn datblygu a chadw academyddion dawnus yn y DU, a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i weithio ar heriau anodd a newydd.

Mae prosiect cynhyrchu cnydau cynaliadwy Dr Lloyd, sy’n cynnwys partneriaid yn y DU, UDA, Ffrainc ac Awstralia, yn ceisio sicrhau y gellir tyfu cnydau’n llwyddiannus mewn amgylchiadau gwres a glaw sy’n amrywio a phwysau clefydau newydd a ddaw gyda newid hinsawdd.

Nod yr astudiaeth pedair blynedd yw ymchwilio i sut mae modd ymgorffori miloedd o nodweddion buddiol a geir mewn cnydau gwyllt i raglenni bridio planhigion yn effeithiol.

Bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol yn manteisio ar ddatblygiadau o’r gwyddorau biofeddygol er mwyn datblygu offer newydd ar gyfer bridio planhigion, gan gynorthwyo datblygu cenhedlaeth newydd o gnydau sy’n barod at y dyfodol.

Mae cwrdd â heriau amgylcheddol heb ddibynnu ar fewnbynnau cynyddol gemegol yn gofyn am gyflwyno nodweddion ymwrthiant newydd i gnydau. Nod yr ymchwil yw cynorthwyo bridwyr planhigion i fanteisio ar y nodweddion buddiol a welir mewn perthnasau gwyllt rhywogaethau cnydau ac i gyflymu’r broses draddodiadol o fridio planhigion.

Ers 2018 bu Dr Andrew Lloyd yn Gymrawd Seren Cymru II yn Athrofa’r Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd: “Mae’n hynod gyffrous i gael fy nghydnabod gan UKRI fel Arweinydd y Dyfodol ac i fod yn gweithio gyda grŵp ardderchog o bartneriaid yn y DU, UDA, Ffrainc ac Awstralia ar y prosiect hwn.”

“Mae sicrhau modd cynaliadwy o gynhyrchu bwyd wrth i’r hinsawdd newid yn her fawr sy’n wynebu’r sector amaethyddol. Rydym yn anelu at ddatblygu offer i’w ddefnyddio mewn bridio planhigion traddodiadol sy’n lleihau’r amser y mae’n cymryd i ddatblygu amrywiaethau newydd. Bydd yr offer hwn hefyd yn helpu i adfer y nodweddion sydd yn galluogi cnydau gwyllt i wrthsefyll clefydau a newid amgylcheddol,  galluoedd a gollwyd wrth ddofi cnydau.”

Dywedodd Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi’r DU, Yr Athro Ottoline Leyser: “Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn rhoi’r rhyddid a’r gefnogaeth i ymchwilwyr ac arloeswyr i yrru syniadau newydd trawsnewidiol yn eu blaenau, a’r cyfle i ddysgu oddi wrth gyfoedion ledled y wlad.

"Mae’r cymrodorion a gyhoeddwyd heddiw yn dangos sut mae’r DU yn parhau i gefnogi a denu ymchwilwyr ac arloeswyr ar draws pob disgyblaeth i’n prifysgol a’n busnesau, gyda’r potensial i gyflawni newid gall gael effaith ar ein cymdeithas a’r economi."

Ychwanegodd Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Athrofa’r Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’r dyfarniad i Dr Lloyd yn gydnabyddiaeth deilwng o’i ddawn aruthrol yn ogystal â phwysigrwydd y prosiect ymchwil. Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o arweinwyr y byd mewn gwyddoniaeth planhigion a chynaliadwyedd, ac mae’r prosiect hwn yn tanlinellu pwysigrwydd ein gwaith wrth i’r blaned wynebu realiti caled newid hinsawdd. Mae datblygu cnydau newydd sydd wedi eu haddasu i heriau amgylcheddol rydyn ni i gyd yn eu hwynebau dros y degawdau i ddod yn hanfodol. Mae ymchwilwyr IBERS, yma yn Aberystwyth, yn  arloeswyr yn y maes o bwys rhyngwladol hwn o drosi gwyddoniaeth planhigion yn amrywiaethau newydd o gnydau at y dyfodol.”

Derbyniodd Dr Andrew Lloyd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Adeilaide yn 2011, gan dderbyn Medal Doethuriaeth y Brifysgol am ei ymchwil mewn genetig esblygiadol. Ers hynny bu mewn nifer o swyddi ôl-ddoethuriaethol yn yr INRA yn Versailles yn Ffrainc, ac yn yr UDA fel Cymrodyr Marie Curie ym Mhrifysgol Havard.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Marie Skłodowska-Curie Rhif 663830