Grant ymchwil sylweddol ar gyfer prosiect diogelu di-drais byd-eang

Mae mudiadau sifil diarfog fel Timau Diogelu Menywod De Sudan y Nonviolent Peaceforce yn gweithio i sicrhau diogelwch corfforfol mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro treisgar. Cydnabyddiaeth llun: Nonviolent Peaceforce.

Mae mudiadau sifil diarfog fel Timau Diogelu Menywod De Sudan y Nonviolent Peaceforce yn gweithio i sicrhau diogelwch corfforfol mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro treisgar. Cydnabyddiaeth llun: Nonviolent Peaceforce.

20 Tachwedd 2020

Dyfarnwyd grant o £1.87m i Brifysgol Aberystwyth i arwain prosiect ymchwil rhyngwladol sy’n ceisio diogelu bywydau miliynau o sifiliaid sydd wedi'u dal mewn ardaloedd o wrthdaro treisgar.

Dengys ffigurau gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig bod 68.5 miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn sgil gwrthdaro treisgar (UNHCR 2019) ac mae mwyafrif y marwolaethau mewn gwrthdaro ymhlith sifiliaid.

"Creu Mannau Mwy Diogel" yw teitl y prosiect pedair blynedd ac fel rhan o’r gwaith, fe gaiff rhwydwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol byd-eang ei sefydlu i gefnogi prosesau lleol lle mae sifiliaid yn cydweithio i helpu i ddiogelu cymunedau rhag niwed corfforol.

Gan weithio gyda chymunedau, nod y rhwydwaith fydd gwella arferion amddiffyn heb arfau gan greu gofod mwy diogel i gymunedau ac unigolion ynghanol gwrthdaro treisgar, codi lefelau cydnerthedd a helpu i atal dadleoli.

Ariennir y rhwydwaith gan gorff cyllido Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) drwy'r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, a bydd yn canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau mewn pedair gwlad, sef Colombia, Myanmar, De Sudan ac Ynysoedd y Philipinau.

Caiff y gwaith ei arwain gan yr Athro Berit Bliesemann de Guevara o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. 

"Mae amddiffyn sifiliaid rhag niwed corfforol yng nghyd-destun rhyfel yn un o faterion dybryd ein hoes," meddai'r Athro Bliesemann de Guevara. "Er bod y gymuned ryngwladol wedi cydnabod yr angen i amddiffyn, mae diogelwch corfforol sifiliaid yn dal i gael ei weld bron yn gyfan gwbl yn gyfrifoldeb i actorion allanol fel helmedau glas y Cenhedloedd Unedig.

“Yr hyn sy’n wreiddiol am y rhwydwaith hwn yw ei ffocws ar ddiogelwch sy’n cael ei ddarparu gan actorion diarfog a hynny ar lefel gymunedol. Mae sefydliadau amddiffyn sifiliaid diarfog yn cydweithio â’r sawl sy’n amddiffyn hawliau dynol, ac mae eu presenoldeb a'u strategaethau ymgysylltu rhagweithiol yn atal gweithredwyr arfog rhag ymosod.

"Maen nhw'n defnyddio rhwydweithiau o gysylltiadau a adeiladwyd gyda grwpiau arfog a diarfog sydd ynghlwm â gwrthdaro i negodi llwybr diogel i wersyll diogel ar gyfer pobl sy’n cael eu dadleoli neu i ddychwelyd pobl ifanc a gafodd eu recriwtio’n orfodol i’w teuluoedd. Maent hefyd yn monitro cadoediadau a chytundebau.

"Gall amddiffyn sifiliaid gan sifiliaid heb ddefnyddio neu fygwth trais lwyddo i greu sefyllfa o ddiogelwch corfforol, a helpu i dorri cylchoedd trais, gan gyfrannu at adeiladu heddwch yn y tymor hwy. Mae ymchwil gychwynnol wedi awgrymu y gallai defnyddio mudiadau amddiffyn sifiliaid diarfog fod yn fwy effeithiol yn aml na lluoedd arfog ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y canfyddiadau hyn dros y pedair blynedd nesaf."

Bydd yr Athro Bliesemann de Guevara yn cydweithio รข 14 o bartneriaid a chydweithredwyr rhyngwladol: