Cwsmeriaid yn barod i dalu pris uwch am gig eidion o ansawdd

Digwyddiad blasu

Digwyddiad blasu

01 Rhagfyr 2020

Mae cwsmeriaid yn fodlon talu dwywaith y pris arferol am gig eidion premiwm o ansawdd uchel, yn ôl canlyniadau ymchwil.

Datgelodd canfyddiadau cyfres o ddigwyddiadau blasu bod cwsmeriaid yn rhoi gwerth uchel ar ansawdd bwyta ac yn fodlon talu dwbl am gynnyrch cyson o ansawdd uchel, o’i gymharu ag un da arferol.

Mae’r canfyddiadau yn rhan o brosiect BeefQ sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth. Ariennir a chefnogir yr ymchwil gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaeth Ewropeaidd.

Cymerodd trawstoriad o 1,200 o bobl o Gymru a Lloegr, sy’n prynu ac yn bwyta cig eidion yn rheolaidd, ran yn y paneli blasu.

Rhoddwyd saith sampl o gig eidion o ansawdd amrywiol i bob profwr a gofynnwyd iddynt eu graddio (ar raddfa 0-100) o ran pa mor frau yw’r cig, faint o sudd sydd ynddo, ei flas, a mwynhad cyffredinol.

Yn ogystal, gofynnwyd iddynt raddio ansawdd pob sampl fel anfoddhaol, da ar gyfer defnydd bod dydd, gwell nag ansawdd arferol neu bremiwm, ac i roi gwybod faint y byddent yn fodlon talu am gig eidion o bob ansawdd..

Dangosodd dadansoddiad ystadegol o’r data bod pa mor frau yw’r cig, ei flas a mwynhad cyffredinol yn cael eu graddio’n gyfartal, tra bod faint o sudd sydd ynddo yn cael ei ystyried yn llai pwysig.

Dywedodd Dr Pip Nicholas-Davies, Cydlynydd y Prosiect BeefQ ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r dadansoddiad hwn yn darparu tystiolaeth gadarn bod cwsmeriaid yn gallu gwahaniaethu’n glir rhwng pedwar categori o ansawdd bwyta, o’r anfoddhaol i’r premiwm. Mae’n ddiddorol ei bod yn ymddangos bod ein profwyr yn fwy sylwgar o ansawdd bwyta’r cig ar y ddau begwn na’r hyn a welir mewn gwledydd eraill lle mae gwaith tebyg wedi ei gynnal. Mae i hyn oblygiadau pwysig i frandiau lle y gall anghysondeb yn ansawdd y cig wrth ei fwyta effeithio ar ei werth.”

Dywedodd y cyfranogwyr yn ogystal eu bod yn fodlon talu dwywaith y pris am gynnyrch o ansawdd premiwm, ond yn teimlo bod cig eidion anfoddhaol yn werth 43% gwerth cig eidion o ansawdd bob dydd. Yn ogystal, canfu nad yw’n bosibl dibynnu ar y darn cig neu’r math o wartheg er mwyn dod i gasgliad am yr ansawdd bwyta.

Dywedodd Deanna Leven, Gweithredwr Datblygu’r Farchnad Allforio: “Mae dadansoddiad y data cwsmeriaid wedi bod yn fewnwelediad gwerthfawr i ddisgwyliadau a chwaeth cwsmeriaid. Rydyn ni’n gwybod yn barod bod cig eidion o Gymru o ansawdd eithriadol o uchel, ond gallai system raddio gywir sydd wedi ei seilio ar ansawdd fod yn ffordd o wneud y diwydiant yn fwy proffidiol drwy blesio cwsmeriaid.”

Ychwanegodd Dr Pip Nicholas-Davies: “Caiff y wybodaeth o’r digwyddiadau blasu eu cyfuno gyda data’r arolwg carcas a gafodd ei gasglu yn 2019 er mwyn datblygu model rhagweld ansawdd bwyta cig eidion BeefQ. I’r perwyl hwnnw, byddwn ni’n cynnal ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid y diwydiant yn ystod gaeaf 2020/21. Bwriad yr ymgynghoriad fydd rhoi gwybod i randdeiliaid am BeefQ a’r system rhagweld ansawdd bwyta cig a ddatblygodd; i fesur chwant rhanddeiliaid am system rhagweld ansawdd bwyta yng Nghymru; ac i werthuso cryfderau a gwendidau’r opsiynau gweithredu arfaethedig.”

Gallwch gofrestru er mwyn mynegi diddordeb mewn cyfranogi at y prosiect drwy e-bostio Vicki Jones, gweinyddwr Prosiect BeefQ (beefq@aber.ac.uk).