Profi ffyrdd newydd o olrhain dietau pobl er lles iechyd y cyhoedd

01 Medi 2022

Bydd ymchwilwyr yn dechrau profi technegau, gan gynnwys camerâu gwisgadwy a phrofion wrin a gwaed, mewn ymdrech i fesur arferion bwyta’r Deyrnas Gyfunol yn fwy cywir a gwella iechyd y cyhoedd.

Gallai iaith fyd-eang newydd ar gyfer newidiadau tir esbonio colled ecosystemau

01 Medi 2022

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyd-ddatblygu iaith gyffredinol i ddisgrifio byd sy’n newid, a allai helpu i ddatgelu’r hyn sy’n achosi colli ecosystemau a difrod amgylcheddol.

Gorbachev a glasnost: sut mae ei waddol bregus o ryddid mynegiant wedi'i dinistrio gan Putin

01 Medi 2022

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod cyfnod Mikhail Gorbachev fel arweinydd yr Undeb Sofietaidd a sut mae'n cymharu â'r arweinyddiaeth yn Rwsia heddiw.

Rings of Power: 'Mewn oes o ffantisïau epig ar y sgrîn, mae llawer o’r camgymeriadau yn anfaddeuol'

08 Medi 2022

Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Athro Llenyddiaeth Saesneg Richard Marggraf Turley yn beirniadu penodau cyntaf y gyfres  ‘Rings of Power’ gan Amazon a gostiodd £50 miliwn y rhaglen.

Y Frenhines Elizabeth II

09 Medi 2022

Neges gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts, Cadeirydd y Cyngor, a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor.

Y myfyrwyr nyrsio cyntaf yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth

05 Medi 2022

Bydd myfyrwyr nyrsio cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau heddiw.

Deng mlynedd o rannu ac arddangos arloesedd mewn addysgu

14 Medi 2022

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol yr wythnos hon, gan ddod ag ymarferwyr addysgu a dysgu o bob rhan o'r Brifysgol i rannu, a rhoi llwyfan i’r dulliau cyffrous ac arloesol sy’n cael eu defnyddio wrth addysgu. 

Dysgu o rannau eraill y DG i ddiogelu ffermydd Cymru rhag TB – cynhadledd yn Aberystwyth

14 Medi 2022

Mae dysgu o’r arfer bioddiogelwch gorau yn y Deyrnas Gyfunol yn allweddol er mwyn atal twbercwlosis rhag lledaenu yng Nghymru, yn ôl arbenigwr blaenllaw a fydd yn siarad mewn cynhadledd yn Aberystwyth. 

Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr

17 Medi 2022

Prifysgol Aberystwyth yw'r Brifysgol orau yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl The Times & The Sunday Times Good University Guide 2023.

Ethol academydd “gweledigaethol” o Aberystwyth yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol

21 Medi 2022

Mae uwch-academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i beirianneg a thechnoleg wrth ddod yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol.

Prosiect Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi cymunedau mewn gwrthdaro byd-eang

22 Medi 2022

Mae dysgu gan dyfwyr coffi brodorol sy’n eu hamddiffyn eu hunain rhag trais arfog yng Ngholombia yn rhan o un o’r prosiectau ymchwil newydd a gyllidir gan rwydwaith rhyngwladol dan arweiniad y Brifysgol.

Cydnabod arbenigedd academydd Aberystwyth gyda chymrodoriaeth

23 Medi 2022

Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth ym maes daearyddiaeth, yr Athro Peter Merriman, wedi’i ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Sychder eithafol a sbardunodd trawsnewid diwylliannol ac esblygiad dynol

26 Medi 2022

Mae ymchwil newydd yn dangos bod sychder eithafol a barodd ddegau o filoedd o flynyddoedd wedi chwarae rhan hollbwysig yn esblygiad dynol, drwy orfodi Homo sapiens i ddatblygu'r diwylliant a'r offer i ymdopi.

Pori, brigbori a chyplu: Bwyd a chwmni o gymorth i anifeiliaid caeth

28 Medi 2022

O alpacaod yn rowlio eu tafodau i iacod croendenau a moch pryderus, mae ymchwil newydd wedi datgelu pam fo rhai anifeiliaid fferm a sw yn ymdopi yn well nag eraill sy’n ymddangos eu bod dan straen.

Rhodd hael i ariannu ymchwil ar Gwenallt a datblygiad y gyfraith yn yr Hen Goleg

28 Medi 2022

Mae ymchwil i waith y bardd Gwenallt a chynllun i ddatblygu Ystafell y Gyfraith a Llys Dadlau newydd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i drawsnewid yr Hen Goleg wedi derbyn hwb ariannol sylweddol.

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

30 Medi 2022

Bydd Gweinidog Iechyd Cymru yn agor canolfan newydd gwerth £1.7 miliwn i hyfforddi staff y gwasanaeth iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.