Apêl yr Hen Goleg

Mae angen eich cymorth chi ar yr Hen Goleg!

Aberystwyth yw Prifysgol gyntaf Cymru. Fe’i sefydlwyd hi yn yr Hen Goleg ac mae wedi’i gwreiddio’n gadarn yn y gymuned a’r ardal leol.

Dyma gyfle unigryw i ddiogelu’r adeilad rhestredig Gradd 1 eiconig hwn ac, ar yr un pryd, ailddyfeisio’r modd y defnyddir yr adeilad ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a’r cenedlaethau o fyfyrwyr ac ymwelwyr sydd i ddod.

Dyma le o bwys sy’n haeddu cael bywyd newydd.

Mae llawer o waith i’w wneud eto o ran ein hapêl codi arian, ac mae eich cefnogaeth barhaus yn holl bwysig.

Cyfrannwch heddiw a bod yn rhan o gymuned gynyddol o gefnogwyr sy'n helpu i roi bywyd newydd i'r Hen Goleg.

Diolch.