Opsiwn cymhwyster cwnsela newydd i fyfyrwyr Seicoleg

29 Medi 2026
Gall myfyrwyr Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth bellach ennill cymhwyster cwnsela a gydnabyddir yn genedlaethol ochr yn ochr â'u gradd, yn sgil achrediad gan brif gorff dyfarnu cwnsela y DU.
Mae'r achrediad gan y Corff Dyfarnu Canolog Cwnsela a Seicotherapi (CPCAB) yn golygu y bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar y radd Seicoleg gyda Chwnsela o'r flwyddyn academaidd gyfredol yn cael y cyfle i ennill Tystysgrif Lefel 3 CPCAB mewn Astudiaethau Cwnsela ochr yn ochr â'u hastudiaethau israddedig.
Mae'r cymhwyster yn arfogi myfyrwyr â sgiliau cwnsela ymarferol, gan eu helpu i baratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn cwnsela, gwaith cynorthwyo a meysydd cysylltiedig, neu ddarparu llwybr i hyfforddiant proffesiynol pellach ac astudiaethau ôl-raddedig.
Dywedodd Dr Alison Mackiewicz, Uwch Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn yr achrediad hwn gan CPCAB. Mae gallu ennill cymhwyster cwnsela a gydnabyddir yn genedlaethol ochr yn ochr â'u gradd yn cynnig sylfaen werthfawr i'n myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn cwnsela, gwaith cynorthwyo a galwedigaethau cysylltiedig."
Ychwanegodd Dr Martine Robson, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i'n gradd Seicoleg gyda Chwnsela. Trwy integreiddio hyfforddiant cwnsela proffesiynol i brofiad y myfyriwr, rydym yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol, magu hyder a pharatoi ar gyfer cam nesaf eu gyrfaoedd neu astudiaethau pellach."
Y Corff Dyfarnu Canolog Cwnsela a Seicotherapi yw prif gorff dyfarnu'r DU sy'n ymroddedig i gymwysterau cwnsela a seicotherapi yn unig.
