Miss Amy Nicholass

Miss Amy Nicholass

Swyddog Prosiect - THINK

Project Officer - Transport and Health Impact

Adran Seicoleg

Manylion Cyswllt

Proffil

Amy yw Swyddog Prosiect y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (Transport and Health Integrated research NetworK, THINK).

Prosiect a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw hwn er mwyn creu gwell cyswllt rhwng trafnidiaeth ac iechyd drwy ddatblygu ymchwil a sicrhau bod tystiolaeth yn cael y dylanwad mwyaf posibl ar bolisïau ac arferion. Bydd Amy yn cefnogi’r tîm ymchwil i wella gwybodaeth a sgiliau pobl sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd, a hynny trwy greu cyfleoedd i ddwyn pobl o wahanol sectorau a disgyblaethau ynghyd. Bydd y rhwydwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth ac arferion mewn pedwar maes penodol sy’n rhyng-gysylltiedig:  

  1. Effaith cerbydau ar lygredd aer a llygredd sŵn ac, yn sgil hynny, ar iechyd y cyhoedd,  
  2. Anafiadau a marwolaethau yn sgil damweiniau cerbydau,
  3. Effaith teithio llesol (cerdded a seiclo) ar iechyd, ac
  4. Effaith cerbydau ar wahanu’r gymuned. 

Yn y gorffennol mae Amy wedi rheoli prosiectau ymchwil sy’n ymwneud â heriau amgylcheddol ac iechyd o safbwynt academaidd tra oedd hi’n gweithio i Sefydliad Arweinyddiaeth ar Gynaliadwyedd Prifysgol Caergrawnt ac o safbwynt ymarferydd tra oedd hi’n rhan o’r tîm polisi yn Eunomia Research and Consulting.

Mae Amy yn seiclwr a cherddwr brwd ac yn mwynhau treulio amser ym myd natur, ac yn enwedig felly yn y môr.