Charles Musselwhite

Chair in Psychology
Manylion Cyswllt
- Ebost: chm93@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-4831-2092
- Swyddfa: 1.20, Adeilad Penbryn 5
- Ffôn: +44 (0) 1970 622929
- Gwefan Personol: www.drcharliemuss.com
- Twitter: @charliemuss
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=gUbAOe8AAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Rwy’n Athro Seicoleg, ac yn ddeiliad Cadair yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy ymchwil yn cynnwys defnyddio seicoleg gymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd i ddeall a gwella’r berthynas rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd. Rwy’n gyd-gyfarwyddwr dwy ganolfan ymchwil a ariennir, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd. Rwyf hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n 51 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion, 25 o benodau mewn llyfrau a phum llyfr. Bûm yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG) rhwng 2015 a 2020, ac yn sefydlydd a chyd-arweinydd grŵp diddordeb arbennig y BSG ar symudedd a thrafnidiaeth yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae fy ngwaith ymchwil wedi cynnwys dros 120 o gyflwyniadau mewn cynadleddau, gan gynnwys cyflwyniadau gwadd mewn dros 55 o gynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ac rwy’n awyddus i ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn rhannu fy ymchwil gyda’r byd go iawn. Rwyf wedi gwneud dau gyflwyniad mewn Gwyliau Gwyddoniaeth Prydeinig (2008 a 2016) ac wedi ysgrifennu llawer o erthyglau ar gyfer y cyhoedd. Rwyf wedi ymddangos ar deledu a radio yn trafod amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â heneiddio, symudedd a’r amgylchedd adeiledig. Rwy’n brif olygydd y Journal of Transport & Health (Elsevier) ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolion EnvisAGE (Age Cymru) a Research in Transportation Business & Management (Elsevier).
Dysgu
Lecturer
- PS32120 - Behavioural Neuroscience
- PSM0520 - Transdisciplinary Dialogue
- PS11420 - Introduction to core topics in Social and Individual Behaviour
- PS11520 - Applications of Psychology
- PS33240 - Counselling Research Project
- PSM0320 - The Psychology of Behaviour Change
- PSM0120 - Implementation Science
- SC33240 - Prosiect Ymchwil Cwnsella
- PS34120 - Psychology Research Project for Joint Honours
- SC34120 - Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer cyd-anrhydedd
- SC33140 - Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer anrhydedd sengl
Grader
Ymchwil
Dau brif faes o ddiddordeb sydd gennyf, sef (1) gerontoleg amgylcheddol, yn craffu ar y berthynas rhwng yr amgylchedd ac iechyd yn ystod y cyfnodau diweddarach mewn bywyd, gan gynnwys diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd hŷn, rhoi'r gorau i yrru, a chreu cymdogaethau a chymunedau mwy addas i bobl hŷn; (2) trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol ar drafnidiaeth a symudedd. Rwyf wedi gweithio ar 45 o brosiectau ymchwil fel prif ymchwilydd neu cyd-ymchwilydd, yn dod â chyfanswm o dros £26m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd myfi yw’r Prif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr ar 2 brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru: sef (1) y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), prosiect £3m i sicrhau bod ymchwil i heneiddio yn bwydo i bolisi ac ymarfer ledled Cymru; (2) Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gwerth £400k, sy’n dwyn ynghyd y rhai sy'n gweithio ym mesydd ymchwil iechyd a thrafnidiaeth o wahanol ddisgyblaethau.