SONA

Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn rhan bwysig o dy lwybr dysgu.

Disgwylir i fyfyrwyr is-raddedig y flwyddyn gyntaf a’r ail i gymryd rhan mewn tua 3 astudiaeth ymchwil y flwyddyn. Mae modd chwilio a chofrestru ar gyfer astudiaethau gan ddefnyddio System SONA, a gellir hefyd ddefnyddio’r system i ennill credydau academaidd ac i recriwtio cyfranogwyr.