64. Gwyddonwyr i helpu i ragweld bygythiadau tywydd gofod
Dr Huw Morgan

Dr Huw Morgan

Mae prosiect SWEEP (Pecyn Ensemble Empeiraidd Tywydd y Gofod) yn brosiect aml-sefydliadol, a arweinir gan Aberystwyth, ac a ariennir trwy gronfa SWIMMR fel rhan o Gronfa Blaenoriaethau Strategol (SPF) UKRI.

Bydd SWEEP yn gweithredu pecyn meddalwedd mawr ar systemau Swyddfa Dywydd y DU a fydd yn rhoi gallu rhagolygon tywydd gofod sy’n arwain y byd i’r DU.

Pan fydd y feddalwedd yn dod yn weithredol bydd yn arwain at welliannau yn y rhagolygon o ddigwyddiadau tywydd gofod mawr (e.e. ffrwydradau solar).

Mae gan ddigwyddiadau o’r fath botensial sylweddol i darfu ar gymdeithas a’r economi, fel y cofnodwyd yng Nghofrestr Risg Genedlaethol y DU, ac mae system ragweld effeithiol o fudd i lawer o randdeiliaid.

Gwyddonwyr i helpu i ragweld bygythiadau tywydd y gofod

Mwy o wybodaeth

Dr Huw Morgan

Adran Academaidd

Adran Ffiseg

Nesaf
Blaenorol