68. Efelychu golwg llygad pry i wella lliw dyfeisiau rheoli pryfed tsetse
Dr Roger Santer

Dr Roger Santer

Mae pryfed Tsetse yn trosglwyddo Trypanosomiasis Affricanaidd Dynol (HAT, salwch cysgu), a Thrypanosomiasis Affricanaidd Anifeiliaid (AAT, nagana), sy'n faich sylweddol ar boblogaethau gwledig yn Affrica Is-Sahara.

Er mwyn rheoli'r clefydau hyn, mae angen dyfeisiau rhad ac effeithlon i reoli tsetse. Yn draddodiadol gwnaed y dyfeisiau hyn o gotwm glas neu ddu, ond mae gan bolyesterau modern fantais o gadernid, pwysau a chost gwell.

Yn anffodus, mae polyesters glas a ddefnyddir mewn cynhyrchion masnachol yn llawer llai deniadol i tsetse na chotwm glas traddodiadol, felly byddai eu gwella yn cynyddu effeithlonrwydd dyfeisiau rheoli yn fawr.

Modelwyd canfyddiadau lliw ffug i nodi gwahaniaethau yn ymddangosiad y ffabrigau hyn i tsetse, a ddefnyddiwyd wedyn i ddatblygu rysáit lliwio ar gyfer polyester mwy deniadol.

Newyddion: Darganfyddiad am liw defnydd yn helpu rheoli pryfed tsetse marwol

Canolfan Ymchwil Datblygu Rhyngwladol Yn Aberystwyth (Cydrha)

Mwy o wybodaeth

Dr Roger Santer

Adran Academaidd

Adran Gwyddorau Bywyd

Nesaf
Blaenorol